Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefydledig.—John Jones Ty'nycoed: i Holt i'r ysgol (1858).— Diarddelwyd am briodi un "digred," yn ol Cyffes Ffydd y Trefnyddion.—Diarddelwyd am fuchedd aflan.—Elin Williams Mur Sant, Margaret Hughes Caerpwsan, Hugh Jones Teiliwr, Evan Jones Penarth, Robert Pritchard Ty'nlon, Hugh Owen Penarth: derbyniwyd oll, Tach. 21 (1859), y Parch. Robert Hughes yn bresennol.—Mary Thomas: bu farw yn yr Arglwydd, Mawrth 1, 1860. Dychwelodd fel ci at ei chwydfa.—Troes i eglwys Loegr ar achlysur ei siom gyda golwg am fyned yn bregethwr gyda'r Methodistiaid. — Ymadawodd dan arwyddion o aflendid aniwair. Diarddelwyd am fyned allan gyda dyn meddw, allan o amser ar y nos, yn wirfoddol.—James Ebenezer Thomas: bu farw yn yr Arglwydd, Ionawr 27, 1861, bore Sul, 8.30, i ddechre Saboth heb ddydd Llun byth ar ei ol; [ac mewn man arall] (bu farw) yn ddeunaw mlwydd oed; ei eiriau cysur olaf oeddynt, "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd," "Cyfamod fy hedd ni syfl," "Cyfamod rhad, cyfamod cadarn Duw, &c."—Mynd a dŵad yn ansefydlog.—Diarddelwyd o achos aniweirdeb." Dyna ddaeth i'r golwg yn y drych. Ni feddyliwyd am y meflau a'r brychau wrth gychwyn, ond rhaid oedd iddynt ymddangos. Dyna fywyd yr eglwys fel sefydliad allanol!—dyna ydyw mewn rhan: dyna ydyw mor bell ag y daeth i feddwl Eben Fardd ei gofnodi mewn sylwadau byrion wrth fyned heibio. Rhaid oedd cofnodi y meflau a'r brychau gyda rhyw air neu gilydd. Nid oedd rhaid cofnodi y da oedd i'w ddwedyd; ac anfynych y gwnawd hynny oddigerth gyda theulu yr ysgrifennydd ei hun. Ni fwriedir, ar hyn o bryd o leiaf, fyned drwy unrhyw lyfr eglwys arall yn y dull hwn. Fe gredir yr un pryd fod yma wers i'r sawl a'i cymero. Dyma nefoedd ac uffern yn ymyl eu gilydd: dyma fywyd dyn yn ei amrywiol agweddau, yn ei dwyll a'i siom a'i gyfnewidiadau, a'i wynfyd a'i wae. Nid oedd yma ddim ond a geir yn hanes pob eglwys. Eithaf peth, ar dro, er hynny, yw edrych i mewn i'r delw-gelloedd, a gofyn am i'r olwg ein hysgythru drwy ddychryn.

Chwefror 17, 1863, y bu farw Eben Fardd, yn un a thrigain oed, wedi bod yng Nghlynnog am un arbymtheg ar hugain o flynyddoedd, yn arolygwr yr ysgol Sul yr holl amser hwnnw, ac yn flaenor am oddeutu ugain mlynedd, efallai flwyddyn neu ragor yn llai. Yn raddol, fel y gwelwyd, y daeth yn deg o dan deimlad o rwymedigaeth i wasanaeth crefydd. Gwnawd ef yn flaenor yng nghapel