ryw nifer yn yr ysgoldy dros yr awr ginio, Elis Wyn o Wyrfai yn eu plith. Yntau yr ysgolfeistr yn dod at yr ysgoldy, ac yn cael fod clo ar y drws, ac na chymerai neb arno ei weled. Torrodd allan,
Agor Elis heb gweryla,
Mae agor y ddor yn dda.
Elis oddifewn,
Agoryd i rai gwirion,
Mi glywais i mai gwael yw sôn.
Bu cryn ymdrafod ol a blaen, a'r bachgen cringoch na fynnid mo'i guro, yno yn gwrando. Yr unig linell arall a gofid oedd yr olaf gan Eben,
Tyr'd Elis côd dy aeliau.
Yr oeddid yn cyflwyno tysteb i Morris Pentyrch yng nghyfarfod llenyddol Clynnog, a'r bachgen cringoch yno yn sylwi. Hen athraw i Eben oedd Morris, a phin ysgrifennu a gyflwynid iddo. Ebe'r bardd:
Plisg a gwisg yw'r gân,
Rwyd-dyllog o'r tuallan.
Yn y pin mae pen y gamp
Ac ergyd y ragorgamp.
Parchai'r gwr hwn bawb, a chawsai yntau ei barchu gan bawb. Nid oherwydd tlodi neb yr elai efe heibio iddo heb sylw; os na wnawd brâd, danghosai barch i bob dyn. Yn y gymdeithas eglwysig nid elai efe i'r llawr i ymddiddan â'r cyfeillion: gadawai hynny o waith i James Williams, wr ffraeth ei ymadrodd, tyner ei deimlad, craff ei olygon, dwys ei brofiad. Gwr gwledig oedd yr hen Siams, ond gwr y gwyddai Eben ei werth er hynny. A gwyliai'r bardd yr hyn elai ymlaen rhwng Siams a'r bobl, a phan godai i siarad, gair pwrpasol i gyfeiriad yr ymddiddan hwnnw fyddai ganddo. Pan weddiai yn gyhoeddus, a gweddiai weithiau yn yr oedfa o flaen y pregethwr, anaml y gweddiai yn faith, a phob amser yn syml, yn uniongyrchol. Ei eiriau fyddai anaml, ac wedi eu cymysgu â dwys ochneidiau. Anfynych y gweddiai nac yn y capel nac yn y tŷ heb ddwyn i mewn i'w erfyniau weddi'r publican, "O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur." Gwelodd gladdu ei wraig, ei unig fab, a dwy ferch o'r tair oedd ganddo, ac ymddanghosai yn gollwng ei afael yn fwy o bopeth daearol wrth eu colli hwy, ac yn enwedig ar ol colli ei fab galluog ac addfwyn, yn fachgen