deunaw oed. O hynny ymlaen, ac am y ddwy flynedd olaf o'i oes difrifolodd yn amlwg yn ei holl ddull. Ni chollai seiat ond o raid yn ystod yr amser hwnnw. Daeth i mewn i'w brofiad y pryd hyn ryw allu rhyfedd i sylweddoli y byd tragwyddol. "Elai'r lle yn hollol ddistaw pan fyddai yn siarad," ebe Mr. John Jones Llanfaglan am y tymor hwnnw arno, "a thynnai chwi i mewn gydag o i'r byd tragwyddol." Cyffelybai ei hun unwaith yn y seiat i'r ysglodyn yn cael ei daflu gan y don ar lan y traeth, ond er cael ei daflu ymlaen gan y don yn cael ei sugno yn ol drachefn, nes dod y seithfed don, ac yna y teflid yr ysglodyn yn deg ar y traeth. Felly yr oedd yntau wedi profi. Ton ar ol ton yn ei daflu ynghyfeiriad y byd ysbrydol, ond pethau'r byd yn dod drachefn i'w sugno yn ol. Ond o'r diwedd, gan gyfeirio at farw ei fab, fe deimlai fod y seithfed don wedi dod, ac na feddai'r byd ddim ymhellach. iddo i'w sugno i mewn yn ol iddo'i hun. Gyda'i fab hwn yr oedd yr oll a deimlai yn werthfawr yn y byd wedi ei gipio oddiarno. Fe'i clywyd yn hynod mewn gweddi yn fuan ar ol yr amgylchiad hwnnw. "Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond tydi? Mae gennym rai yno, ac y mae yn dda gennym am danynt, ond ni a edrychwn heibio iddynt oll atat ti! Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond tydi?" Trwy ffydd fe welodd weledigaeth y proffwyd:
Yn nrych y gair mi welaf
Olwynion trefn y byd
Yn dirgel droi eu gilydd
A Duw'n eu gweithio'i gyd.
Cymododd â gerwindeb yr oruchwyliaeth:
Braidd ag ofni byddaf weithiau
Mai gwr caled ydwyt til
Ond fy nghalon a'm condemnia;
Nid gwr caled
Roisai'i fywyd dros fy math.
Heb fod nepell oddiwrth y diwedd y diferodd oddiwrtho ei eiriau olaf ar ffurf barddonol:
Y nefoedd fydd
Yn oleu ddydd
O bob goleuni i'w ddisgwyl sydd.
Tremiai â'i lygaid wrth dynnu ei anadliad olaf, ac ymdaenodd gwên dros ei wyneb. Aeth lawer gwaith gynt i Lwyn y Nef gan ddisgwyl clywed yr aderyn hwnnw a swynai seiri Eglwys y Bedd nes methu ganddynt fyned ymlaen gyda'u gorchwyl hyd oni chafas Beuno sant gan yr Arglwydd ei symud, ac yna hwy aethant ymlaen.