wrando profiadau cyfrinachol pobl mewn oedran! A chofier o blaid Neli y manylid llawer mwy y pryd hwnnw ar bynciau profiad. Yr oedd gan Neli ei dadl, ac nid ar chware bach y rhoid taw arni: hi ddychwelai drachefn a thrachefn at ei phwnc. Ond dyna Evan Richardson yn arfer ei awdurdod,— "Wel, taw bellach, Neli." A gorfu ar Neli dewi, ac ennillodd Hugh Morris ei bwnc. Un tro, pan oedd Ann ar ymweliad â'i modryb yn y Carneddi, fe dorrodd teimlad nerthol allan yn y gwasanaeth wrth ganu'r anthem, Par i mi wybod dy ffyrdd. Byth wedi hynny, fe gyffroid ei hysbryd pan gyffyrddid â rhai darnau yn yr anthem honno. Meddai ar lais peraidd, a chanai gryn lawer arni ei hun. Yr ydoedd hi yn un o'r genethod hynny gynt a gipiai'r arweiniad oddiar Daniel Roberts yn y seiat, sef pan dorrai ei grwth undant ef i lawr yn deg. Hi fyddai'n gofalu fod gan ei phlant "lafur" ar gyfer y Sul. Darllenodd rai o lyfrau'r Dr. Owen Evans drosodd a throsodd, a thra hoff ydoedd o bregethau Henry Rees, John Jones, Edward Morgan, a Morgan Howels. Gwnaethai ei rhan er cynnal yr addoliad teuluaidd yn ddifwlch, a gadawodd argraffiadau arosol cysegredig ar feddyliau ei lliaws plant. Hi a'u cymhellai hwynt, hefyd, i ymroddiad gyda'r canu a'r cyfarfod llenyddol a dysgu y Beibl ar dafod leferydd. Bu ei mab, H. H. Parry, yn arweinydd y gân yn Ninorwig am 26 blynedd. Yr oedd ei dylanwad hi a'i gwr yn amlwg ar y Parch. John Hughes Parry, ac ar briod T. O. Hughes, y blaenor gynt yn Peel Road, Bootle, a phlant eraill. (Cofiant Morris Hughes, t. 25.)
Yn 1890 y Parch. Hugh Jones (Huw Myfyr) yn ymsefydlu yma fel bugail, gan ddod yma o eglwys Llanllechid. Dydd Nadolig, 1890, bu farw Thomas Closs Williams, yn flaenor yma er 1887, a chyn hynny yn y Fachwen. Gweithgar ynglyn â phob symudiad crefyddol a chymdeithasgar. Dirwestwr aiddgar. Manwl a threfnus ynglyn â phob gorchwyl. Bu'n llwyddiannus ynglyn â chynnal dosbarthiadau plant. A'r swyddogaeth eisoes wedi ei bylchio, anhawdd ydoedd ei heb— gor. Un o'i eiriau olaf,—"Oes, y mae gwlad." Sicrhae ei gyfeillion ei fod ef ei hun yn myned iddi. (Edrycher Fachwen.)
Medi, 1891, y Cyfarfod Misol yn derbyn ymddiswyddiad tri o'r blaenoriaid, sef ymddiswyddiad a gyflwynwyd i'r Cyfarfod Misol y mis Chwefror blaenorol, sef oeddynt hwy: H. H.. Parry, John Davies a Francis W. Francis. Hugh Lewis yn