y seiat. Medi 6. Tywydd rhy ystormus i gael cyfarfod eglwysig. Tachwedd 15. Hin rhy ystormus i fedru myned i'r cyfarfod [sef i'r gweinidog fedru]. 20. Rhy ystormus i fedru myned yno. [Y gweinidog y flwyddyn hon wedi dechre torri i lawr yn ei iechyd.] 1887. Chwef. 9. Cynhulliad lluosog. Cyfarfod da ac ysgafn. 21. Lluosog iawn. 23. Pwnc,— Pregeth y Parch. James Jones, sef Llafur enaid y Gwaredwr yn achos pechadur. Hwylusdod mawr. 16. Coffad cynnes. a serchus iawn am William Owen Pant—y—cafn. Gwr ffyddlon yn yr holl dŷ. Crybwyllwyd am Thomas Owen Tyn'raelgerth, heb fod yn aelod yn nodedig gyda'r ysgol ac mewn cylchoedd eraill. Mai 16. Ymwelwyr. Dr. W. Rowlands Ebenezer yn afaelgar ac effeithiol. 1889. Mai 27. Ymwelwyr. Pwnc,— Pwysigrwydd cydnabyddiaeth drwyadl â Gair yr Arglwydd. 1890. Gorff. 14. Ymddiddan ar bregethau y ddau Saboth blaenorol. Eneiniad rhyfeddol. 1896. Ionawr 8, bu farw Anne Jones, yn 38 oed, chwaer grefyddol, yn goron i'w gwr, yn fam ofalus a thyner i'w phlant. 1897. Cyfartaledd presenoldeb drwy'r flwyddyn yn 20. Hydref 19. Dydd Diolchgarwch. Y Parch. J. O. Jones yn bwrw golwg dros gyfnewidiad— au 27 mlynedd. Dau benteulu yn unig yn aelodau yn 1870. 36 o bersonau yn aelodau yn 1870. "Hebron wedi ei argraffu yn ddwfn iawn ar fy nghalon, fel y caiff yr achos yn eich plith fod i mi yn destun gweddi. Ac wrth weddio dros eich gweinidog newydd, peidiwch âg anghofio yr hen weinidog, a gafodd y fraint o fyned a dyfod yn eich plith am dros 27 mlynedd. Gweddiwch chwi drosof fi, a gweddiaf finnau drosoch chwithau. Dywed fy nheimlad fel fy ngair olaf, Dymunaf heddwch Hebron; llwydded y rhai a'th hoffant. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mrodyr a'm chwiorydd y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw y dymunaf i ti ddaioni. Amen ac Amen. John Owen Jones, gweinidog, Llanberis, 7 Rhag., 1897." Rhag. 8. Sefydlwyd D. Morgan Richards yn weinidog yn Hebron. 1898. Mr. H. J. Williams yn gofalu am y canu. Mae canu Hebron yn ganu eithriadol,— uwchraddol iawn o ran ansawdd y lleisiau. Ysbryd swynol yn ei nodweddu. . . Canu goreu Arfon i'w gael yn ddiau yng nghynulleidfa y Waen cwm brwynog. Yn gynnar ar y flwyddyn cyflwynwyd darluniau ohono'i hun a'i briod i'r Parch.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/141
Prawfddarllenwyd y dudalen hon