Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afonydd mawrion sydd yma chwaith, na thonnau arswydlawn yr eigion neu ei dorr-cymylau, ond is-lais natur a'i hwylofain a'i grŵn colomenaidd. Nid gorfod gwrando sydd yma ond hud—ddenu: nid gorchfygu'r iach ei galon ond swyn i dorrcalon. I'r sawl y paratowyd eu meddyliau a'u calonnau fe gyfyd yma sain o ddyfnder natur, ac fe ymetyb dyfnder calon dyn. Ac yna wrth droi i ymwrando â'r llef a gyfyd o'r dyfnder, fe ganfyddir Mab y Dyn, ag y mae ei lais fel swn. llawer o ddyfroedd, a'r ser oddiarnodd yn ei ddeheulaw, yn goleuo â'i bresenoldeb y saith canhwyllur aur.

Pob nant â mwyniant y meini,—tybiaf,
Atebant y rhedli :
Pa'nd cysur i'n natur ni
Peroriaeth Pau Eryri. (DAFYDD DDU.)

Mae yn yr ardaloedd yma gilfachau unig ac ogofeydd dirgel, a glanau llynoedd yn y gwylltoedd maith, a chopaon a llethrau mynyddoedd, lle bu cymundeb enaid â Duw yn hanes llawer o'r preswylwyr, heb son am eraill. Fe gofnodir rhyw ychydig o hynny yn yr hanes hwn. Fe drawsnewidir yr unigeddau a'r gwylltoedd a'r dirgel-fannau hyn o'r anianol i'r ysbrydol ym myfyrdodau a gweddiau a phrofiadau a bucheddau dynion sanctaidd Duw. Portreiadau'r pethau sydd yn y nefoedd ydyw'r mannau hyn mor wirioneddol ag ydoedd ordinhadau a seremoniau yr orchwyliaeth Iddewig; a thrwy waed y Messiah y purir hwythau hefyd drwy gyfrwng mawl ac addoliad a gwasanaeth dynion.

Nid yw'r olion hynafiaethol, megis Castell Padarn yng nghanol plwyf Llanberis a Llys Dinorwig ym mhlwyf Llanddeiniolen yn chwanegu nemor yma at yr arddunedd, er chwanegu ohonynt ryw gymaint at y cydymdeimlad dynol yng ngwydd yr olygfa. Howel Harris yng nghwmni dau frawd, fel yr adroddir yn hanes y Waunfawr, yn gweddio ar ben twr Dolbadarn yw'r peth mwyaf yn hanes y twr hwnnw, neu'n hanes neb un o'r hen adfeilion hyn. Mae Watts—Dunton, er cydnabod cyfaredd arbennig yr olygfa, yn priodoli llawer o'r swyn i ysbryd hynafiaeth a groga uwchben, ag y mae'r olygfa wedi ei thrwytho ag ef. Cysylltir enwau yr hen saint, Peris a Padarn, â'r lle, pa beth bynnag ydoedd y cysylltiad. Mae'r gwir hanes yn ddiau wedi ymgolli yn niwl y gorffennol. Honir fod y castell cyn hyned a'r unfed ganrif ar ddeg. Mae bardd-