Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oniaeth ar gael o'r drydedd ganrif ar ddeg, fel y tybir, yn honni fod yn gyfeiriedig at Owen Goch yn ystod ei garchariad yma, gan Llewelyn ap Gruffydd, tywysog olaf Cymru, o'r ach Brydeinig. A thybir mai un o blasdai'r tywysog hwnnw oedd. Llys Dinorwig. Fe ddywedir fod tô eglwys Peris Sant o'r bymthegfed ganrif. Fe ystyrir yr hen eglwys hon yn un dra chywrain yn ei symledd gweledig, ac yn gyfryw na welir mo'i chyffelyb yn hollol ond ym mharthau mwyaf mynyddig y cyfandir. Diau fod yr ysbrydiaeth hynafiaethol yma yn trochi'r olygfa yn nheimlad hynafiaethwyr. Eithr y mae yma ysbrydiaeth arall, cyfamserol a'r diwygiad Methodistaidd, ag sydd i'r saint nid yn hynafiaeth yn unig ond yn ieuangrwydd hefyd. Pan berffeithir y profiad ysbrydol y dirnedir yn llawn ogoniant yr olygfa.

Er cael golwg ar dôn teimlad a diwylliant moesol a meddyliol y werin cyn cyfodiad Methodistiaeth, nis gellir gwell na dwyn gerbron rai o'r hen ddyrifau neu bennillion telyn. Dyma wrth law gasgl ohonynt a wnawd gan P. B. Williams. Arwyddnodir y llawysgrif gan "Peter Williams, Llanrug, 1799," sef ymhen saith mlynedd wedi dod ohono ef i'r ardal. Yn rhan olaf y llawysgrif y ceir y pennillion. Gellir casglu, gan hynny, fod cryn liaws ohonynt, neu'r rhan fwyaf fe ddichon, wedi eu casglu ganddo oddiar lafar trigolion yr ardaloedd hyn. Eithr nid yw'r cwbl ohonynt, fel y gwyddir, ond adlewyrchiad teg o dôn meddwl a theimlad corff y bobl yn yr amseroedd. hynny. Nid yw'r casglydd, ychwaith, wedi cyfleu yn ei lyfr y pethau iselaf o'r fath yma, y fath ag y cyfeirir atynt yn yr hen argraffiad o lythyrau Goronwy Owen. At ei gilydd, fe fydd y detholiad yma o'r llawysgrif yn cyflwyno elfennau goreu y cymeriad Cymreig yn y cyfnod crybwylledig. Yn rhyw ddylanwad sy'n dianc rhag disgrifiad, braidd, y teimlir y gwahaniaeth rhwng cyfnod y pennillion a'r cyfnod Methodistaidd.

Deudwch 'i sy'n dda'ch gwybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd Hiraeth,
A pha'r ddeunydd a rowd ynddo
Na ddarfyddai wrth ei wisgo.

Mae fy nghalon i cyn drymed
A phetae hi o blwm neu garreg,
A chyn llawned o feddyliau
Ag yw'r gogr mân o dyllau.