drysorydd y genhadaeth; a chafodd y digwyddiad argraff mor annedwydd, fel na chododd mo'r casgl hwn ei ben yn deg mewn 50 mlynedd. Er hynny, glynodd eraill; ac arosodd tinc y diwygiad yn eu gweddïau, y cyfryw ag sy'n atgof melys yn rhai a'i clywsant. Rhif yr eglwys yn 1858, 92; yn 1860, 172; yn 1862, 160; yn 1866, 140.
Yn amser y diwygiad, ac am ryw gymaint ar ol hynny, fe ddeuai Robert Ellis yr Ysgoldy yma i gadw seiat, ac i gynorthwyo wrth dderbyn y rhai oedd ar brawf yn gyflawn aelodau. Nid yw ef wedi cadw cofnodion am hynny yn ei ddyddiadur. Yn 1863 fe ddeuai Dafydd Morris yma i gynnal seiat. Fe debygid mai dyma'r adeg fwyaf llewyrchus ar y seiadau. Yr oedd ganddo ef ffordd ddeniadol i dynnu rhai i adrodd profiad, a meddai ar ddawn barod a tharawiadol i egluro'r adnodau y cyfeirid atynt. Un tro aeth yn afael rhyngddo ag Elias Williams Carreg y frân ynghylch adnod, a dalid at ei olygiad gan bob un, er yn y dymer oreu, a phawb yno'n mwynhau'r ornest. Elias Williams yn myned ag ef i'w gwynoswd, ond yn dal i dynnu'n y dob; ac yna i'w hebrwng ychydig ffordd, fel y bwriadai ar y pryd. Eithr fe aeth cyn belled a Phont rug, pellter o tua thair milltir. Dafydd Morris yna yn ei ddanfon yntau'n ol cyn belled a Phen y greuor. Elias Williams wedi hynny yn ei hebrwng yntau'n ol drachefn. Y teulu'n myned yn anesmwyth o'r diwedd, ac yn troi allan ar ymchwil amdano, ac yn ei gyfarfod tua dau ar y gloch y bore yn dyfod adref. Wedi peth ymliw, ebe yntau,—"Mi gefais y seiat oreu yn fy oes." Gan fod y seiat yn un mor dda, ni ddylesid cwyno am ei hyd.
Ar ol y diwygiad, y capel wedi myned yn rhy fychan eto. Codi un arall. Maint y capel, 51 troedfedd wrth 48 oddimewn; a chynwysai le i 410. Gosodwyd lle i 300 yn Ebrill, 1861. Yn 1867 rhowd croglofft arno, a chau rhan o'r llawr yn ystafell plant, sef lle i 124 eistedd.
John Owen Betws y coed yn dod yma yn fugail, Tachwedd, 1868. Arhosiad byrr fu'r eiddo, ond gwnaeth waith camoladwy. Dychwelodd i Fetws y coed. Llwyddodd i dynnu bechgyn ieuainc o'r dafarn oedd wedi dechre ar yr arfer o'i mynychu. Bu'n cadw ysgol nos un gaeaf. Yr oedd ganddo ddosbarth darllen, lle darllenid Athrawiaeth yr Iawn Lewis Edwards neu lyfr arall. Caffai rai o'r bechgyn i ddodi i lawr enwau pawb fu