Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/332

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd. Mehefin 12. Seiat. Ffrit, ffrat. O Arglwydd, bywha dy waith ynghanol y blynyddoedd. Gorffennaf 24. Seiat. Teimlo eisieu D. Prichard. Rhagfyr 27. Seiat. Rhoddi achos John [Pryce] Davies i lawr i bregethu. Gwr ieuanc gobeithiol. 1867. Ionawr 29. Seiat. J. O. a W. R. yn gwneud Davies yn bregethwr. Pob peth yn hynod addawol. Chwefror 7. Cyfarfod diwygiadol. Peth newydd. Ofnwyf mai plentyn byrr—hoedlog ydyw. 26. Seiat siriol. Mor hapus! 1868. Ionawr 14. Seiat pen blwyddyn. Cysurus. Gorffennaf 27. Seiat. Cyffredin. O, am y peth nas gallwn ei wneud! Tachwedd 21. Sul. Ysgoldy. Y dwfr a roddwyf. Diog. Gras Duw yn dysgu. Eto. Ceisio'n gyntaf. Llipa, llipa. Pa beth i bregethu? Methu gwneud yr un bregeth yn werth pen botwm. Rhagfyr 14. Seiat. Cyfarfod difrifol. Bygwth marw ar ein gilydd. Fe ddaw! 1872. Ionawr 2. Seiat. Areithio —a rhynu! Pa fodd i gadw seiat? 23. Seiat pen blwyddyn. Beirniadu'r seiat. Ym mhob pen y mae piniwn. Chwefror 20. Seiat. Cyffredin. O, am eneiniad ar ein cynhulliadau! Tachwedd 5. Seiat. Areithio, areithio, areithio! 26. Seiat. Gwell na'r cyffredin. Ond cael gwell defnyddiau. 1873. Mawrth 25. Seiat go dda. Mae seiat dda yn iechyd i gorff ac enaid. Gorffennaf 1. [Noson seiat yma.] Dechre gafael yn fy ngwaith. Seiat ar ol seiat. A rhwyfo yn erbyn y tide o ddifaterwch ym mhob un. O, am wynt teg! 1875. Mawrth 20. Jones bach Ffestiniog yn areithio ar ddirwest. Da odiaeth. Ebrill 2. Cyfarfod gweddi undebol. Cysurus. Nadolig. Y cyfarfod llenyddol yn Nisgwylfa. Pw, pw! a phw drachefn! 1876. Ionawr 4. Seiat pen blwyddyn. Da iawn. Chwefror 22. Dim un swyddog ond D. P. a minnau yn y seiat hon. Ond mae gennym ein dau gryn feddwl o honom ein hunain. Da hynny. Nid oes neb arall yn meddwl nemor o honom. 1877. Mawrth 27. Seiat. Ymdroi gyda'r bobl ieuainc. Troi tyndir. Mehefin [nis gellir penderfynu pa noswaith yn ystod 11—16]. Cranogwen yn darlithio yn Nisgwylfa ar Pwy yw'r gwron? Siarad yn gryf, yn athronaidd. Mwy o bob peth nag o'r athronyddol [?]. Gorffennaf 17. Seiat. Yr ymrysonfa fawr ynghylch cael bugail. Medi 30. Sul. Agoryd eu llygaid. Doethineb. Dim gafael ar y gynulleidfa. Nid yw Disgwylfa yn lle priodol i mi bysgota. 1878. Ionawr 29 [os ar nos Fawrth fel arfer]. Peth hynod yr wythnos hon oedd llwyddo i