fel yn sawru o gyfeiliornad. Lle peryglus, yn peri braw i weiniaid, oedd parlwr y tŷ capel yn y cyfnod hwnnw. Eithr fe aeth y cyfnod heibio, a'i beryglon neilltuol gydag ef; a thy capel Disgwylfa nid yw mwyach. Nid am fod y tŷ capel heb fod yno, bid sier; ond awyrgylch arall sydd iddo, a phrofiadau o rywogaeth arall sydd ynglyn âg ef. Ac i'r rhai sy'n cofio'r hen dŷ capel, nid hwn mo hwnnw. Ac os dodid gwrth—hoel go denn ar fodiau rhai pregethwyr, nid gwaeth mo'r pregethwr ar bob tro oherwydd hynny. Ac, o'r hyn lleiaf, fe brofai'r oruchwyliaeth honno y cawsai'r bregeth sylw, ac y cofid hi. "Eithr fe delid sylw i'r pregethwr mewn ffyrdd eraill amgen na'r un a ddeuai i'r golwg ym mharlwr y tŷ capel. Os clwyfwyd ysbryd ambell bregethwr yn y parlwr wrth weled ei bregeth yn cael ei thynnu oddiwrth ei gilydd yn bedwar aelod a phen, iechyd i'w galon fuasai clywed yr ymdrin â'r un bregeth drachefn, yn y seiat ddilynol. Nid plisgyn y beirniadu a welsaiefe yno, ond ymborthi ar y cnewyllyn melys. Wedi adrodd o'r plant eu hadnodau, dyna rhyw un o'r blaenoriaid, yn ei dro, yn rhoi crynhodeb o bregethau'r Sul. Yna elai Dafydd Prichard a Robert Ellis i'r llawr i holi profiad. Efo'i gilydd yr elai'r ddau. Robert Ellis yn cynnal yr ymddiddan; Dafydd Prichard yn ei arwain at y sawl y byddai oreu i ymddiddan â nhwy ar hynny o dro. Ac heblaw dethol y bobl i ymddiddan â nhwy, fel y cawsai pawb ei gyfle yn ei dro, ac na thynnid gormod ar dethau rhai hesbion, fe fyddai Dafydd Prichard ei hun, mewn perffaith gydgord â Robert Ellis, yn dyfynnu adnod neu sylw o Gurnal, cymwys i'r profiadau a adroddid. Rhoid eithaf cyfle iddo i hynny yn null cwta Robert Ellis o gyfleu ei feddwl. Nid oedd hafal i Robert Ellis am ddinoethi gwir gyflwr y neb a adroddai brofiad; nid oedd a ragorai ar Dafydd Prichard am adnod gymwys i'r profiad a draethid. Fe ymddanghosai fel pe buasai'r Beibl i gyd yn ei gôf, a phob adnod yn cynnyg ei gwasanaeth iddo fel y byddai ei heisieu. Yn y dull yma, fe godai'r seiat weithiau i bwynt uchel iawn ar bwys gweinidogaeth y Saboth. Cof gennyf am un Sul, pryd y cafwyd pregeth ar y geiriau,—Fel yn enw Iesu y plygai pob glin. Rhowd crynhodeb o'r bregeth ar ddechreu'r seiat. Yna aeth y ddau hen dad i'r llawr i holi profiad. Sylw o'r bregeth honno, ynghyda'r hyn gafwyd i'r enaid drwyddi, oedd gan bob un yr ymddiddanwyd âg ef. Yr oedd mesur o eneiniad ar yr oedfa y
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/335
Prawfddarllenwyd y dudalen hon