Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y CAPEL COCH A'R CYLCH.

Y CAPEL COCH.[1]

Y ddau enw wrth yr ysgrif yn y Drysorfa am 1836 ydyw W. Morris y Cwmglas a Hugh Owen yr Hafod. Yna fe chwan- egir ei bod wedi ei sgrifennu gan William Hughes Proscairon, Llanddeiniolen. Diau mai W. Morris a Hugh Owen oedd yn gyfrifol am yr hyn a draethir, ond mai llaw William Hughes a'i cyfleodd i lawr. Fe roir ar ddeall mai William Parry o'r Deheudir oedd y cyntaf o'r Methodistiaid a fu yn pregethu yn Nant Llanberis, a hynny yn 1733. Mae Methodistiaeth Cymru (ii., 144) yn tybio mai William Harri oedd y gwr, a dywed fod yng nghofnodion Trefeca ynglyn â chymdeithasfa Llanddeusant, Chwefror 3, 1742, benderfyniad i'r perwyl fod William Harri i gadw ysgol yn Sir Gaernarvon a chynghori rhwng oriau'r ysgol. Diau mai cywir y dŷb yma. Ni bu Howel Harris ei hun yn y sir hyd 1841. Fe ddywedir yn yr ysgrif fod William Parri yn "gryf o gorff a gwrol ei feddwl." Fe allesid casglu braidd oddiwrth yr ysgrif mai ysbryd anturiaethus y gwr barodd y meddwl yma am dano. Eithaf tebyg na fuasid wedi danfon neb amgen na gwr o'r cyneddfau a nodir. Fe ddywedir ddarfod iddo holi am ei ffordd yn Ysbyty Ifan, a'i bod yn nos dywyll arno ym Mwlch rhiw ychen; er hynny fe gyrhaeddodd y Cwmglas cyn y bore drannoeth.

Llety Robert Ellis oedd y Cwmglas, a ddaeth wedi hynny, prin cynt, yn gynghorwr. Fe roir ar ddeall ddarfod i William Harri glywed ar y ffordd fod drws agored iddo yn Llanberis. Nid annichon ddarfod ei hysbysu o hynny cyn cychwyn, a bod Howel Harris pan yn y pen arall i'r sir, wedi clywed am Robert

  1. Ysgrif G. J. Hughes. Pum ysgrif yn y Genedl ar Hen Flaenoriaid. Llanberis gan Cofnodwr, sef G. J. Hughes. Atgofion am Gapel Coch yn y Drych, Chwefror 16 hyd Mawrth 30, 1911, gan O. W. Rowlands, Victoria Uchaf. Atgofion Ceridwen Peris; R. R. Williams L'anse, Michigan; Owen Hughes Betws Ga mon. Hanes dechreuad pregethu gyda'r Methodistiaid yn Llanberis, Drysorfa, 1836, t. 83. Ysgrif ar y Capel Coch, gan Hugh Owen, Drysorfa, 1865, t. 22. Nodiad ar William Rowlands. Ymddiddanion.