Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ran eu hamgylchiadau, yn enwedig rhai amddifaid. Wedi arfer penderfyniad meddwl ei hunan yn ieuanc, fe hoffai ganfod yr un rhinwedd mewn ieuenctid yn wyneb anhawsterau. Hoff ydoedd o siarad yn y seiat ar fawredd cariad Duw. Byrr ei araeth yn y seiat, nid heb flas, ac âg ias o'r athronyddol yn hytrach na'r ymarferol, ffrwyth ei ddarllen yn yr awduron Seisnig hynny. Fe sylwir gan G. J. Hughes mai efe yn ddieithriad a ddarllenai y tocynnau aelodaeth a gyflwynid i'r eglwys, a chwanega na chlywodd mo neb yn rhagori arno mewn sylwadau priodol ar y cyfryw achlysuron. (Goleuad, 1893, Rhagfyr 1. t. 10.)

Yn 1893-4 adeiladu'r capel o newydd. Y draul, gan gynnwys yr organ, tua £3,500. Ei fesur oddifewn 65 troedfedd wrth 41 wrth 31. Stafell yr organ 18 troedfedd wrth 9 wrth 23. Adeiladwyd o gerrig o'r lle a gwenithfaen Môn. Y mae ar ffurf croes o'r arddull Eidalaidd. Fe'i cyhoeddwyd yn deilwng o'r Wyddfa y saif arni. Y cynllunydd, R. Lloyd Jones, y cymerwr Owen Morris, y naill a'r llall o Gaernarvon. Eisteddleoedd i 715. Agorwyd yn ffurfiol y dyddiau olaf o Fedi: Nos Fercher, 26, cyfarfod gweddi; nos Iau, gwasanaeth drwy gyfrwng yr organ; nos Wener, pregethwyd gan y gweinidog ar Ioan ii., 17; nos Sadwrn a'r Sul, gwasanaethwyd gan T. J. Wheldon, W. R. Jones Caergybi, Thomas Roberts Bethesda. Yr oedd holl gapelau'r Nant isaf o bob enwad ymneilltuol yn gaëedig y nos Sul, ond fel y gorfu agor Gorffwysfa i dderbyn. y bobl nad oedd le iddynt yn y Capel Coch. (Goleuad, 1894, Hydref 10, t. 5.)

Yng Nghyfarfod Misol Mehefin 24, 1895, fe wnawd coffa am John Wheldon, yn flaenor yma er 1866. Brodor o'r ardal. Fe gedwid gwesty Dolbadarn gan ei rieni, ac yno y ganwyd yntau. Sian William Coed mawr oedd ei nain o ochr ei fam, ac yr ydoedd hi ymhlith y rhai cyntaf i sefydlu ysgol Sul yn y Capel Coch. Elin Ffowc oedd ei fam, a meddai hi a'i mam. yr enw o dduwiolion. Fe aeth Sian William lawer gwaith dros. y mynydd i Ddrws y coed i'r seiat a gynhelid mewn hen feudy yno. Mab i John Wheldon ydoedd y Parch. T. J. Wheldon, ac ŵyr iddo ydyw'r Major Wheldon, cofrestrydd Prifysgol Bangor. Bu John Wheldon yn brwydro am flynyddoedd âg argyhoeddiadau crefyddol. Un yn unig o'r plant o'r ardaloedd cylchynnol a ae i'r ysgol i Lanrug a gawsai'r fraint o'i dderbyn