Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

ymadael erbyn hyn o'r Gwynfynydd, a dyfod i fyw i'r Nannau. Ac yma hefyd y bu John Griffith a Jane Roberts am beth amser. Clywsom mai i Gwmeiddew y daethant gyntaf i ardal Corris, ac iddynt fod yno am ddwy flynedd cyn symud i'r Rugog. Clywsom hefyd mai yno yr oeddynt pan y priododd Elisabeth fab y ffarm agosaf, sef Dafydd Humphrey, Ty'ny- ceunant.

Cawsom enwau chwech o blant John Griffith a Jane Roberts, sef, Griffith, John, Lowri, Dorothy, Ellin, ac Ann. Bu Griffith farw yn ddibriod yn y Llwyn, yn ardal yr Ystradgwyn. Os hysbyswyd ni yn gywir, yr ail fab, John, oedd yr un y bu Humphrey Davies, Abercorris, yn dysgu galwedigaeth lledrwr gydag ef yn Mhenygarreg, Corris, ac wedi hyny yn Nhremadog. John Jones y gelwid ef, a bu yn dilyn ei alwedigaeth yn y lle diweddaf am lawer o flynyddoedd. Bu Ellin yn wraig Cwmllowi, gerllaw Abergwidol, yn Mhenegoes, am amser maith. Thomas Jones, Tynyberth, oedd gwr Ann; ac y mae un mab iddynt, o'r enw Evan Jones, yn byw yn awr yn Cwmllowi. Bu un arall o'r enw Griffith Jones farw yn ddiweddar. Gallwn ein hunain gofio Dorothy,—Doli Jones, o’r Werglodd Ddu, yn ardal yr Ystradgwyn, a mam Mrs. Anne Morgans, yr hon sydd yn awr yn byw yn Nghorris.

Ar tudalen 61 cyfeirir at y Parchedig Rowland Hill ar daith trwy ranau o Feirion gyda'r Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Digwyddodd i ni yn ddiweddar alw gyda Mrs. Jones, Machynlleth; a dangoswyd i ni yno lythyr wedi ei ysgrifenu gan Mr. Charles, o Hoxton, cartref Arglwydd Hill, o'r hwn le yr oedd Mr. Hill ac yntau i gychwyn ar eu taith. Yn y llythyr hwn ceir dyddiad y daith uchod, sef Medi, 1806. Bwriadent fod yn Nghorris un boreu, a myned ymlaen i Fachynlleth at yr hwyr. Yn Llanidloes y bwriadent dreulio y Sabbath canlynol; a digon tebyg i'r bwriad gael ei gario allan.

Cawsom sicrwydd i'r Parchedig Ebenezer Morris hefyd dalu