Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

hi yn y ty hwnw. Bu am ryw gymaint o amser wedi hyny, meddir, yn Llainygroes. Ac yn 1840, yn ol yr adroddiad yn y Drysorfa, yr oedd ysgol yn y TY Mawr a Cwmeiddew. Nid ydym yn sicr pa bryd yr unwyd y ddwy hyn mewn un ysgol yn y Capel Bach ; ond yr ydym yn gwybod mai yno yr ydoedd o 1848 i 1850. Yn 1854 yr adeiladwyd Capel Bethania, yr ochr arall i'r afon, ac ar fin y ffordd newydd. Yn 1866, cafwyd ei fod yn rhy fychan, ac adeiladwyd capel llawer helaethach a rhagorach wrth ei dalcen. Tybiwn mai tua 1865 y sefydlwyd yr eglwys yn Bethania.

Mae un brawd a fu mewn cysylltiad â'r eglwys hon, sef y diweddar Samuel Williams, Rugog, yn un nas gellir myned heibio iddo heb wneuthur coffad parchus am ei enw. Bu yn dŵr o nerth i'r achos yn Bethania ymron o'i gychwyniad; ond bydd yn fwy naturiol dwyn i mewn ein crybwyllion am dano fel un o gydlafurwyr Rowland Evans yn Aberllefenni. Yn yr eglwys hono y dewiswyd ef yn flaenor; ac yno hefyd y llafuriodd gyda ffyddlondeb mawr am lawer o flynyddoedd.

Mae yn amlwg oddiwrth yr amlinelliad uchod fod Methodistiaeth Corris wedi bod yn hynod lwyddianus. Am y deugain mlynedd cyntaf, neu o leiaf y deunaw ar hugain cyntaf, ni bu gynydd braidd o gwbl; ond yn y 66 mlynedd diweddaf y mae wedi bod yn fawr iawn. Mae yr eglwys yn Rehoboth yr unig eglwys lai na thriugain mlynedd yn ol, erbyn hyn yn bump o eglwysi, ac yn dair o Deithiau Sabbothol. Dyma y Teithiau ;Rehoboth ac Esgairgeiliog; Bethania ar Ystradgwyn; Aberllefenni a'r Alltgoed. Ac yr ydym yn dodi i lawr yma nifer eu haelodau ar ddiwedd 1880, yn ol yr Ystadegau cyhoeddedig gan Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, fel y caffer golwg ar unwaith ar gynydd can mlynedd, sef o 1780, pryd y dychwelwyd Dafydd Humphrey yn y bregeth yn Abergynolwyn, hyd 1880: