1. Pwy ydyw y gosodwr. 2. Pa fath osodiad ydyw. 3. Yr achos o'r gosodiad. 4. A phwy y mae yn dwyn perthynas.
1.Pwy yw y gosodwr. Duw oedd y gosodwr yn nhragwyddoldeb diddechreu, cyn creu dyn nac angel. Fe ragwelodd Duw y byddai i'w gyfraith gael ei throseddu, ac yn y rhagolygiad hwnw fe osododd fod marw yn gyflog pechod. Mae yn rhaid i ni ddeall mai nid peth newydd a dieithr i Dduw oedd pechod, pan y torodd allan gyntaf yn ei ymerodraeth; byddai hyny yn feddwl tra annheilwng am y Duw mawr, yr hwn sydd yn gwybod y diwedd o'r dechreu, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto. Nid oes dim yn newydd iddo ef; yr oedd efe wedi rhagweled pechod cyn iddo dori allan, ac wedi rhagosod y gosb briodol iddo. Nid ydym i feddwl chwaith na allasai Duw rwystro i bechod gymeryd lle; byddai hyny yn feddwl rhy isel am yr Hollalluog; eto nid oedd hyn yn gosod un angenrheidrwydd ar yr un o'i greaduriaid i bechu, yr oedd hyny wedi ei adael at ryddid eu hewyllys, fel creaduriaid rhesymol. Yr oeddynt wedi eu gosod yn y gyfryw sefyllfa ag y gallasent beidio pechu, ac y gallasent wneyd, gwobr am beidio, a chosb am wneyd, wedi eu rhagosod gan Dduw, a'u hamlygu iddynt hwy. Felly Duw a osododd fod i ddynion farw.
2. Pa fath osodiad ydyw? Mae y gosodiad hwn, fel y cwbl o eiddo Duw, yn osodiad priodol iddo ef ei hun.
(1.) Mae yn osodiad cyfiawn. Ni osododd Duw ddim ond oedd yn gyfiawn. A wyra yr Hollalluog gyflawnder? Pe buasai cyfiawnder yn goddef i ryw gosb ysgafnach fod am bechod, buasai un ysgafnach wedi ei gosod. Nid yw Duw yn ymhoffi yn mhoenydio gwaith ei ddwylaw; ac y mae fod marw wedi ei osod yn gyflog pechod, yn gosod allan y mawr ddrwg sydd ynddo. Ni allasai anfeidrol ddoethineb a chyflawnder Duw gael allan yr un gosb briodol iddo ond marw. Nid creulondeb yn Nuw ydyw ei fod yn cosbi ei ddynion, ond ei gyfiawnder sydd yn rhoddi angenrheidrwydd arno i wneyd; ei gyfiawnder oedd yn ei rwymo i gosbi pechod â marwolaeth gan hyny, mae y gosodiad hwn yn berffaith gyfiawn.
(2.) Mae yn osodiad anghyfnewidiol. Fel y mae Duw ei hun yn anghyfnewidiol, felly y mae y gosodiad; gan hyny, mae pechod, pa le bynag y byddo, yn rhwym o gael ei ddilyn â marwolaeth. Nis gellir newid y gosodiad hwn heb newid Duw. Pan roddwyd pechod ar uniganedig y Tad, dilynwyd ef â marwolaeth yno. Yn y byd hwn y mae y gosb weithiau yn cael ei newid, neu ei hysgafnhau; ond nis gellir newid cyflog pechod, nai ysgafnhau ychwaith, mwy nag