ei feddiant ar y pryd ond Beibl a Hyfforddwr Mr. Charles; ond llafuriodd yn galed am wybodaeth Ysgrythyrol yn nghanol pob anfanteision. Pan oedd tua 22 mlwydd oed symudodd o'r Cemmaes i'r Felin Gau, yn ardal Penegoes, gerllaw Machynlleth. Yn Machynlleth yr oedd yn aelod eglwysig yn ystod ei arosiad yn y lle hwn; ond dywedir ei fod yn ffyddlawn ac ymdrechgar gyda'r Ysgol Sabbothol yn Penegoes tuag adeg ei chychwyniad. Mewn llyfr dyddorol a gyhoeddwyd ychydig flynyddau yn ol, ar Hanes yr Ysgol Sabbothol yn Nyffryn Dyfi, dywedir fel y canlyn : Wrth y Twyn Celyn (fel ei gelwir), yn mhentref Penegoes, y mae tŷ bychan i'w weled, yn yr hwn yr oedd yn byw, flynyddoedd lawer yn ol, ddwy chwaer grefyddol, o'r enwau Mary a Jane Miles. Yno y cafodd yr Ysgol Sabbothol; le i roddi ei throed i lawr gyntaf yn y pentref hwn. Yr oedd hyny oddeutu y flwyddyn 1810 Ei chyfeillion mwyaf zelog oeddynt Morris Davies; John Jones, Bowling Green; a Rowland Evans, gwas ar y pryd gyda Mr. John Lewis, Felin Gerig. Ond yn ol yr hanes a gawsom nid oedd R. E. yn yr ardal hon hyd oddeutu y flwyddyn 1814
Tra yn ardal Penegoes, cymerodd iddo ei hun yn wraig un o'r enw Mary Peters, merch i John ac Ann Peters, Aberdyfi, yr hon a ddygasid i fyny yn grefyddol. Tachwedd 7, 1818, y priodwyd hwy, yn Eglwys Towyn, gan y Parchedig David Davies, M.A, Curad, (o Bennal wedi hyny) pan oedd R. E. yn 25 mlwydd oed, a'i briod flwyddyn yn hynach nag ef. Wedi priodi, cymerodd felin ei hun yn ardal Eglwys Fach, Swydd Aberteifi, lle y preswyliodd am bedair neu bum mlynedd. Ymhen tua blwyddyn wedi symud i'r lle hwn dewiswyd ef yn flaenor yn nghapel y Graig; yr hyn sydd dystiolaeth sicr fod ynddo y pryd hwnw ryw nodweddau tra anghyffredin. Cymhellwyd ef yn daer hefyd i ddechreu pregethu, ond gwrthododd yn benderfynol.