Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

Dyffryn, pan yn myned i mewn yno. Ie felly y gwela i, Rowland, meddai yntau; a phlygu i fochyn hefyd. Byddai yn gyffredin weddillion un neu ychwaneg o'r cyfryw yn grogedig dan y nen; ond yr oedd yn rhaid plygu yn is drachefn wrth fyned ymlaen tua'r gornel. Ar lawr y byddai y tân, a choed fyddai ei ddefnydd braidd yn wastad. Ar y naill law yr oedd settle, y gallai dau eistedd arni, gerllaw i'r hon y byddai yn wastad ford gron. Y gongl yn ymyl y ford oedd congl R. E. Yr ochr arall i'r tân yr oedd mainc, yr hon y gallai tri neu bedwar eistedd arni, ac o dan ba un y cedwid yn gyffredin ryw gymaint o danwydd. Yn yr hen gonglau hyn, treuliwyd llawer hirnos gauaf yn dra difyrus. Byddai y cwmni weithiau yn lliosog ac amrywiol, ond byddai yr ymddiddan bob amser yn adeiladol. Ni chaniateid i wegi ddyfod i mewn, er y byddai yno yn gyffredin bob sirioldeb. Yno y treuliasom rai o oriau dedwyddaf ein hoes. Cymerid i fyny rai prydiau bwnc o athrawiaeth, y pwnc fyddai dan sylw ar y pryd yn yr ysgol, neu bwnc y cawsid pregeth arno yn ddiweddar, neu ynte a ddaethai i sylw mewn cyfarfod eglwysig; ac ar adegau ceid dadleuon gwresog. Nid oedd Llyfrgell y Felin yn helaeth, ond yr oedd ynddi ddau neu dri o lyfrau o awdurdod uchel yn ngolwg ei pherchen, yn arbenig Y Geiriadur, ac Esboniad Thomas Jones ar yr Hebreaid. Gelwid y blaenaf yn fynych i'r bwrdd; a byddai y neb a ddigwyddai gael yr awdurdod hwnw o'i ochr, yn teimlo ei hun cystal a buddugoliaethwr.

Ar adegau eraill, adroddid hanesion am hen bregethwyr, hen bregethau, hen seiadau; a llithrai yr ymddiddan nid yn anfynych at y profiadol. Nid ydym yn cofio gweled neb erioed yn tynu mwy o fwynhad o gymdeithas cyfeillion nag a dynai R. E. ar yr adegau hyn, ac yn wir ar bob adeg y digwyddai iddo syrthio i gymdeithas ei frodyr. Byddai yn anghofio ei ofidiau yn llwyr, nid yn unig yn nhŷ Dduw, ac yn nghymdeithas y saint yno, ond hefyd yn eu cymdeithas ymhob man arall.