threuliodd llawer o ddynion mewn amgylchiadau cyffelyb erioed fywyd cyfan yn nes i ysbryd addoli na R. E.
Hoffem yn fawr allu cyflwyno i'n darllenwyr syniad teilwng am dano, yn arbenig mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbothol, ac fel swyddog eglwysig. Edrycher arno yn gyntaf yn ei gysylltiad â'r Ysgol Sabbothol.
Gwelsom eisoes ei fod er yn foreu yn aelod o honi, ac iddo barhau yn ffyddlawn iddi yn ei holl symudiadau. Cawn weled eto yn ei areithiau y gwerth a roddai arni; ond gorchwyl lled anhawdd fydd gosod allan y gwasanaeth gwerthfawr a wnaeth iddi yn ystod ei Oes faith.
Fel athraw ni raid i ni betruso datgan ei fod yn ddiau yn un o'r rhai rhagoraf, er na chawsom ein hunain erioed y fraint o fod yn aelod o'i ddosbarth. Byddai ei ddosbarth yn wastad yn lliosog, yr hyn oedd dystiolaeth sicr i effeithiolrwydd yr athraw. A magodd hefyd lawer o athrawon, er mai nid ei ddosbarth ef yn gyffredin oedd y dosbarth athrawon. Ond ymataliwn rhag gwneuthur unrhyw sylwadau pellach arno yn y cysylltiad hwn. Bu yn ffyddlawn yn y swydd am uwchlaw pymtheng mlynedd a deugain.
Fel holwyddorwr, yr oedd yn meddu ar ragoriaeth arbenig. Dechreuodd ar y gorchwyl yn gyna'r yn ei oes, ac ni roddodd ef i fyny hyd y diwedd. Ac yn Aberllefenni, yn benaf trwy ei ddawn a'i lafur ef, daeth holwyddori yn sefydliad tra phoblogaidd. Ar ddiwedd yr ysgol bob Sabbath, treulid chwarter awr neu ychwaneg gydag ef; a mynych iawn yn y blynyddoedd gynt y cynhelid cyfarfodydd holwyddori ar nos Sabbothau. Yn y prydnhawn yn unig y ceid pregeth y pryd hwnw; ac yn lle cyfarfod gweddi (yr hwn a fyddai yr un mor boblogaidd ar bregeth) ceid ar adegau gyfarfodydd i'r amcan uchod. A chyfarfodydd tra neillduol fyddent. Cymerid weithiau ran o benod o'r Beibl, a phryd arall benod o'r Hyfforddwr; ond yn achlysurol darperid 'Mater', yn y ffurf o holwyddoreg, gan un