Ond eu cael i'r lan oedd pwnc mawr H. D. Er ei fod yn llawer mwy galluog a gwreiddiol nai dad, Dafydd Humphrey, yr oedd yn ddiau lawer o'i ysbryd ynddo. Ni fynai D. H. ei faeddu gan amheuon; yr oedd y cyfamod ganddo yn wastad i syrthio yn ol arno. Preswylio yr uchelderau y byddai efe. Ac yr oedd cwyno yn ddiddiwedd yn beth nad oedd gan ei fab amynedd gydag ef: gwrthdystiai yni ei natur yn ei erbyn. A'i bwnc ef fyddai cael y dioddefwyr a'r cwynfanwyr i'r lan. Rhwng y ddau, byddai y cyfeillachau eglwysig yn dra dyddorol ac adeiladol.
Nid llawer o bethau digrifol a ddigwyddasant erioed mewn cysylltiad â R. E.; ond un tro, yn Nghorris, dywedodd air a arweiniodd i ganlyniadau lled ddigrifol. Yr oedd dau hogyn yn gwasanaethu gyda Dr. Evans, yn y Fronfelen. Perthynai un o honynt i'r society a daeth y llall un noson yno gydag ef. Buasai y ddau hogyn yn y berllan, yn cymeryd rhyw nifer o afalau; a chuddiasai yr un oedd heb fod yn y society lonaid ei gadach poced o honynt yn becyn yn ei goffr gartref, nes y deuai yr amser cyfaddas i'w bwyta. Nid oedd hyn, pa fodd bynag, yn wybyddus ond i'r ddau hogyn eu hunain. Yn y Cyfarfod Eglwysig, dywedodd H. D. : Maen dda genym weled Richard, y Fronfelen, yma heno. Lle gwerthfawr i fechgyn fel yma sydd yn eglwys Dduw. Gobeithio, machgen i, y byddi di yn fachgen da iawn. Newch chi ofyn gair iddo, Rowland Cyfododd R. E. i fyned ato, ac wrth gychwyn dywedodd, Wel, gadewch i ni weld beth sydd yn ei bac o. Tybiodd y bachgen fod ei gyfaill wedi dweyd wrth R. E. am yr afalau; cipiodd ar unwaith ei gap odditan y fainc, aeth allan ar frys, ac ni welwyd ef yno byth mwyach. Gydag enwad arall y bu yn aelod ymhen blynyddoedd ar ol hyny; a chyda'r enwad hwnw yr arhosodd hyd ei farwolaeth.
Bu R. E. yn swyddog yn eglwys Corris am oddeutu ugain mlynedd, sef hyd sefydliad eglwys yn Pantymaes, Aberllefenni.