yn mlynyddoedd ein mebyd. Bychain iawn oedd eu manteision, a bychani oedd galluoedd rhai o honynt; ond gwnaethant wasanaeth gwerthfawr i achos crefydd yn eu dydd. Nid oes braidd un o honynt yn awr yn aros. Maent wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Ond gwirionedd syml ydyw fod R. E. yn rhagori yn fawr fel pregethwr ar lawer o honynt, ac y byddai ei anerchiad yn yr hwyr yn llawer mwy effeithiol nar bregeth yn. y prydnhawn Gellir ffurfio rhyw syniad am ei anerchiadau oddiwrth yr engreifftiau a roddir o honynt yn y benod nesaf; ac eto nis gellir ffurfio ond drychfeddwl tra anmherffaith am eu dylanwad ar y gwrandawyr. Nid oedd yn medru eu hysgrifenu fel y llefarai hwynt, nac yn medru eu llefaru ychwaith fel yr ysgrifenai hwynt. Cofir byth lawer o'i ddywediadau. Dyma un engraifft : Llestr pridd oedd Job ar y goreu; ond yr oedd er hyny yn tincian ar y domen.
Rhaid i ni, pa fodd bynag, ddwyn ein sylwadau i derfyniad. Yn 1866, wedi mwynhau iechyd hynod wanaidd am flynyddoedd, tarawyd ef gan y parlys. Gwellhaodd i fesur ar ol hyny, er na bu o lawer fel yr arferai fod o'r blaen. Yn 1870, tarawyd ef eilwaith, ac ni wellhaodd mwyach. Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn siriol dros ben, a'i ofnau oll wedi ei adael. Peth newydd iddo ef oedd hyn. Ofnus fu ar hyd ei fywyd. Yr ydym yn cofio yn dda am ymddiddan rhyngddo â'r diweddar Barchedig John Griffith, Jerusalem, yn Nhŷ'r Capel. Pan yn Nolgellau, yr oedd Mr. G. yn dra chydnabyddus âg ef, ac wedi ffurfio syniad uchel am dano. Y tro hwn, daethai i Aberllefeni i Gyfarfod y Nadolig, ar ol myned o Ddolgellau i Jerusalem, yn Bethesda. Yn enw dyn, meddai Mr. G, pan welodd R; E. yn dyfod i mewn, a'i dyma lle yr ydych chwi eto? pa bryd yr ydych chwi yn meddwl mynd i'r nefoedd ? Mae arna'i ofn garw, meddai yntau, na chai ddim mynd i'r nefoedd o gwbl. Pam yr ydych chwi yn ofni peth felly ? meddai Mr.