Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/143

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IX

YCHYDIG O GYNYRCHION ROWLAND EVANS

NID ydym yn gwybod i Humphrey Davies ysgrifenu llinell erioed, oddieithr ei lythyrau; ond byddai Rowland Evans yn dodi i lawr yn lled fynych ffrwyth ei fyfyrdodau. Ysgrifenodd i'r Drysorfa gofiant byr i Morris Jones a Mary Davies, Abercorris, os nad ychwaneg. Ac nid afnawdd, hwyrach, fuasai casglu nifer lled dda o'i ddywediadau yn y gymydogaeth pe cawsid cyfleusdra i hyny. Dyma engreifftiau

Nac edrychwch ar y rhai fyddo mewn gwell amgylchiadau, ond yn hytrach ar rai mewn gwaeth amgylchiadau na chwi. Dyma y ffordd i gynyrchu ynom y teimlad priodol.

Os digwydd i Ragluniaeth wasgu arnoch, na phrinhewch yn eich cyfraniadau at achos crefydd yn gyntaf oll. Dylem brinhau ymhob man cyn prinhau yn ein cyfraniadau i'r Hwn sydd yn rhoddi i ni bob peth.

Powsi ydyw crefydd, a phob blodeuyn rhinweddol wedi ei gasglu iddo. Mae rhai blodeu yn fwy amlwg weithiau nau gilydd, ffydd yn Abraham, amynedd yn Job, zêl yn Pedr, cariad yn Ioan; ond chwiliwch yn fanwl, chwi gewch nad oes yr un rhinwedd ar ol.

Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe ath gynal di. Nid yw yn addaw cymeryd ymaith y baich, ond y mae yn addaw dy gynal dan y baich, yr hyn sydd lawn cystal phe symudid y baich.

Yr ydym wedi cymeryd yr hyn a ganlyn ol lawysgrif ef ei hun, oddigerth y ddau Fater Ysgol; ac nid oes genym amheuaeth na bydd llawer o'r sylwadau yn brofion eglur i lawer nad adnabuant R. E. erioed o wirionedd yr hyn a ddywedwn am ei alluoedd.