y dwfr. y neb a ddisgynai i'r llyn hwnw yn gyntaf, ar ol cynhyrfiad y dwfr, ai yn iach o ba glefyd bynag a fyddai arno. Mae Ysbryd Duw yn fynych yn disgyn i lyn yr Ysgol Sabbothol, ac y mae aml un wedi dechreu myned yn iach ynddo. Anwyl enaid, gochel aros gartref pan y gelli fyned i'r Ysgol, rhag mai y tro hwnw y bydd yr ysbryd yn disgyn, a'th gymydog yn myned adref yn iach, a thithau yn marw yn dy glefyd.
II
MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL.
Mae pwysigrwydd mawr yn perthyn i'r gwaith o ymdrin â holl osodiadau Duw; ac felly y mae i'r gwaith o ymwneyd â'i Air Sanctaidd. Nid yr un effaith sydd i'r haul naturiol ar bob peth. Mae yn caledu y clai, ond yn toddi yr ymenyn; yn peri i'r llysiau dymunol yn yr ardd arogli yn fwy peraidd, ond yn peri i'r domen fod yn fwy drewedig a ffiaidd. Felly am y Beibl. Nid yr un effaith y mae yn ei gael ar bawb. Mae rhai yn cael bendith arno i fod yn lles iddynt, ond y mae eraill yn myned yn fwy caled wrth ei ddarllen. Mae o bwys i ni i ystyried pa effaith y mae yn ei gael arnom. Nid chwareu plant yw ymwneyd â'r Beibl. Mae canlyniadau tragwyddol iddo. Bydd yn arogl marwolaeth i farwolaeth i ni, oddieithr iddo fod yn arogl bywyd i fywyd. Ac y mae hyn yn dangos y mawr, bwys a berthyn i swydd a gwaith athraw yn yr Ysgol Sabbothol. Bum yn meddwl lawer gwaith yn y cysylltiad hwn, Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd ; a phan heneiddio nid ymedy i hi.
Am y plentyn, ffol ac ynfyd heb ddeall ac heb synwyr ydyw ef, wedi ei eni fel llwdn asen wyllt. Gan hyny angenrhaid ydyw ei ddysgu am ei gyfrifoldeb i Dduw. Mae ei ogwydd at ddrwg hefyd bob amser. Mae holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser; ac felly rhaid ei hyfforddio at yr hyn sydd dda. O ran ei gyflwr, drachefn, y mae dan gollfarn deddf Duw, ac yn rhwym i farw yn dragwyddol. Teithiwr ydyw dyn yn y byd, yn myned trwyddo unwaith, trwy yr ysgol unwaith, trwy bob odfa unwaith, i fyw am byth yn y byd ysbrydol. Bydd cyfrifoldeb mawr yn gorphwys arnom pa fodd yr ymddygwn tuag ato. Mae Duw yn galw arnom i waredu y rhai a lusgir i angau. A dylem gofio fod y plentyn. yn werth gwaed. Yr oedd yr Iuddewon yn methu gwybod pa beth a wnaent â'r arian a daflodd Judas iddynt. Er caleted oeddynt, ystyrient nad oeddynt i ymddwyn tuag at werth