Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

felly, ac yn bur barod i'w wneyd; ond yr oedd digon o gariad yn y wraig i blygu at ei draed i wneyd cymwynas iddo.

IV

MYFYRDOD AR DDYLANWAD ADDYSG.

Yn y Beibl cawn gymhelliad at dri math o addysg, sef addysg gelfyddydol addysg foesol, ac addysg grefyddol.

1 Addysg gelfyddydol. Yr oedd yn ddiareb ymysg yr Iuddewon fod pwy bynag na ddysgai gelfyddyd i'w fab yn ei ddwyn i fyny yn lleidr. Cof genyf glywed hen fodryb yn dweyd wrth ei nai y byddai yn ddwy ar bymtheg oed y dydd cyntaf o Ebrill; ac nad oedd ganddo ond blwyddyn wedi hyny nes y byddai yn ddeunaw mlwydd oed, yr oedran i fyned at y militia. Ac os na byddai yn medru cyflawni pob gorchwyl y pryd hwnw y cyfrifid ef yn ffol.

Gwelais hanes am foneddwr, yn berchen etifeddiaeth o amryw ganoedd o bunau yn y flwyddyn, wedi ymserchu mewn boneddiges ieuanc, yr hon y dymunai ei chael yn wraig iddo. Pan yn gofyn cydsyniad ei thad, dywedodd yr hen foneddwr call fod yn rhaid i'r neb a gaffai ei ferch ef yn wraig iddo fod yn medru rhyw gelfyddyd,. Ffromodd y boneddwr ieuanc yn aruthr, a dywedodd fod ganddo ef etifeddiaeth eang, fel nad oedd yn rhaid iddo wrth unrhyw gelfyddyd. Mae ystad yn burion, meddai yr hen foneddwr, os bydd; ond y mae celfyddyd yn well. Yr oedd serch y gŵr ieuanc wedi ymglymu yn gryf am y foneddiges, ac ar unwaith ymroddodd i ddysgu y gelfyddyd o wneuthur basgedi. Wedi dysgu, cymerodd fasged o i waith ei hun at yr hen foneddwr, i ail ofyn ei gydsyniai. Cafodd y foneddiges ieuanc yn wraig; ond yn gynar yn ei oes collodd ei etifeddiaeth, a da oedd iddo bellach wrth ei gelfyddyd i ddwyn ei blant i fyny.

Dyledswydd rhieni ydyw dysgu i'w plant ryw alwedigaeth fuddiol, fel y gallont dybynu arnynt eu hunain wedi eu colli hwy. Hawdd iawn yw i nyth glyd gael ei chwalu, Dywedir y bydd yr eryr yn chwalu ei nyth er mwyn gorfodi ei gywion i ehedeg eu hunain. Dysgais gelfyddyd, ac os bydd modd, dysgwch wybod rhywbeth am fwy nag un gelfyddyd, canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. Mae ambell gelfyddyd yn myned yn lled ddiwerth trwy gyfnewidiad amgylchiadau. Yr oedd Abraham, yn dysgu ei deulu yn rhyfelwyr, Pwy fuasai yn tybio fod angen am i'r hen ffarmwr wneyd hyny? Onid digon oedd iddo amaethu ei dir? Ond gwr