Idris. Mae y golygfeydd ar bob llaw, wrth fyned o Minffordd, amaethdy a arferai fod hefyd yn westy hyd yn ddiweddar, tua Dolgellau, gan adael y dyffryn a’r llyn o’r tu ol, mor ramantus ag unrhyw olygfeydd braidd yn Ngogledd Cymru. Wrth gongl isaf y llyn y mae hen Eglwys y plwyf, lawn saith milldir oddiwrth yr amaethdai yn mlaen Cwm Ceiswyn. Ond er y pellder, yr oedd amryw flynyddoedd o’r ganrif bresenol wedi myned heibio cyn bod un addoldy arall yn y plwyf; ac nid oedd ynddo yr un gladdfa oddieithr yr un gerllaw yr Eglwys hyd 1846.
Ar ganol y dyffryn y mae yn awr gapel bychan, perthynol i’r Methodistiaid. Gerllaw iddo y mae y llanerch a adwaenid gynt fel “Mawnog Ystradgwyn,” ond sydd yn awr yn feusydd trefnus a chynyrchiol. Bu y lle hwn am lawer o flynyddoedd yn fan cyfarfod “bechgyn Corris” a “bechgyn Ystradgwyn” i gicio pêl droed. Tua dwy filldir yn nes i Dowyn na’r hen Eglwys y mae pentref poblog Abergynolwyn. Mae y Cwrt wedi ei golli yn awr yn yr Aber. Saif y pentref hwn ar derfynau plwyfi Talyllyn, Towyn, a Llanfihangel-y-pennant. Yn ystod y pum’ mlynedd ar hugain diweddaf, y mae agoriad chwarel Bryneglwys wedi peri i’r ardal hon wisgo gwedd hollol newydd.
I gyfeiriad Machynlleth y rhêd y trydydd o’r cymoedd. Ychydig gyda milldir o Gorris y mae pentref Esgairgeiliog. Trwy y crybwyllion uchod, bydd gan y darllenydd ryw syniad am safle a pherthynas y gwahanol leoedd a ddaw dan sylw yn y tudalenau dyfodol.