Gwirwyd y dudalen hon
- 2. Pechodau y rhai a sancteiddir ar ddelw Duw yn byd hwn. Ioan xvii. 11, 12, 17
- 3. Y rhai a ogoneddir gyda Christ yn y nefoedd. Ioan xvi. 24; Rhuf. viii. 29, 30
XVII. G. Pa beth a olygwch wrth gyfrifiad o gyflawnder Crist i'w bobl?
- A. Fod Duw Dad fel barnwr ac amddiffynwr ei gyfraith yn cyfrif yr hyn a wnaeth eu cynrychiolwr mawr drostynt i fod yn eiddo iddynt hwy. Esaiah xci. 10; liv:17; Rhuf. v:6; viii:33
XVIII. G. Onid oes gan y saint gyfiawnder o'r eiddynt eu hunaint
- A. Nac oes. Bratiau budron yw eu holl gyfiawnderau. Esaiah lxiv 6
- 2. Mae y saint wrth natur yn greaduriaid euog megis eraill, ac oni wneir hwynt yn gyfiawn bydd cyfiawnder yn gofyn eu taro hyd yn nod yn y nefoedd; canys ni all cyfiawnder gyd—drigo mewn heddwch âg euogrwydd. Num. xv. 18; Ps. lxxxv. 10, 11
- 3. Mae y saint yn sychedu am gyfiawnder Crist. Phil. iii. 9
- 4. Maent yn casâu eu cyfiawnderau eu hunain. Phil iii. 8
- 5. Yn nghyfiawnder Crist y byddant mor hardd eu hymddangosiad yn y nefoedd. Dat. vii. 9, 13, 14
XIX. G. Pa beth sydd i'w ddeall wrth gyfiawnder Crist?
- A. Ei ufudd—dod perffaith i'r gyfraith yn ei fywyd, a'r Iawn a dalodd yn ei angau. Rhuf. v. 19; 1 Petr iii. 18
XX. G. A ddichon barnwyr mewn llysoedd gwladol gyfiawnhau yr anghyfiawn a bod yn gyfiawn wrth hyny?
- A. Na ddichon. Deut. xxv. i.
XXI.G. A all Duw gyfiawnhau yr euog, a bod yn gyfiawn wrth hyny?
- A. Gall, trwy ei fod yn cyfrif iddo gyfiawnder perffaith, Crist. Rhuf. iii. 26
Mae rhanau o'r Mater uchod i'w cael yn llawysgrifeu R. E ei hun, wedi eu hysgrifenu bedair gwaith, gyda rhyw gyfnewid iadau bob tro; ond nid yn yr un o honynt yn y ffurf uchod yn