Gwirwyd y dudalen hon
yn hollol. Y tebyg yw i'r Mater, cyn ei osod o flaen yr Ysgol, gael ei ddwyn gerbron y brodyr Samuel Williams a Howell Jones, ac i ychydig gyfnewidiadau gael eu dwyn i mewn iddo ganddynt hwy. Yn ydym yn tybio mai yn llawysgrif H. J. y mae i lawr yn y llyfr. Yn un o lawysgrifau R. E, ceir y gofyniad canlynol ar atebiad fel hyn
- G.Pa beth yw cyfrifiad?
- A. Rhoddi rhinwedd neu fai un o blaid neu yn erbyn un arall. Philemon 18
- Ac mewn un arall, ceir y cwestiwn ar ateb canlynol:
- G. Am ba sawl math o gyfrifiad y sonir yn y Beibl?
- A. Dau. 1 Cyfrifiad o eiddo dyn iddo ei hun. Ezec. xviii 20
- 2. Cyfriliad o eiddo dyn arall iddo. 2 Bren. xxv. 3 4
Mewn un ysgrif hefyd, ychwanegir y geiriau canlynol at vii. 3, Ac ni buasai neb yn gweled hyny yn anghyfiawn mwy nag y gwelir yn anghyfiawn i fab etifeddu etifeddiaeth a berthynai i'w dad.
AM FFYDDLONDEB GYDA GWAITH YR ARGLWYDD
- GOFYNIAD A ydyw yn ddyledswydd arnom fod yn ffyddlawn gyda gwaith yr Arglwydd?
- ATEB. Ydyw, oblegid
- 1. Mae Duw wedi gosod dynion yn y byd hwn yn oruchwylwyr drosto. 1 Cor. iv:2
- 2. Ffyddloniaid ydyw un o enwau y saint yn y fuchedd hon. Ephes. i:1
- G. Beth yw ffyddlondeb?
- A. Cywirdeb a gonestrwydd Un ffyddlon yw un yn ateb i'r ymddiried a roddwyd ynddo. Gen. xviii. 17—19.
- G. Ymha bethau y mae flyddlondeb y saint i'w weled?
- A.i. Yn eu gw—ith yn cynal y wi'r athrawiaeth yn ngwyneb holl gyfeilirnadau yr oes 1 Tim. iii. 15 ; Judas 3.
- 2. Trwy fod yn llafurus i ledaenu yr efengyl dros yr holl fyd. Rhuf. xv. 19, 20; 1 Thes i. 8.
- 3. Yn ei dyfal ymarferiad âg ordinhadau ty Dduw. 1 Cor. xi, 26.
- 4. Trwy anog eraill i bob rhinwedd a duwioldeb. Heb. iii. 13.; Col. iii. 16.