Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/159

Gwirwyd y dudalen hon

sydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti yn yr amlwg."

Nis gallwn lai na theimlo fod y ddau lythyr canlynol yn haeddu lle yn y fan hon; er mai nid heb beth petrusder yr ydym yn dodi i mewn y diweddaf.

Ysgrifenwyd y llythyr hwn ganddo at ei ferch Jane, yn hâf y flwyddyn 1854, wedi iddo ddychwelyd o Landrindod. Bu am flynyddau yn myned i'r Ffynhonau, ac yn derbyn lles mawr yno. Nid oedd yn y byd ddim a wnaeth gymaint o les i'w iechyd a dyfroedd y Pistyll Bach.

Anwyl Ferch,

Clywsom ddydd Sadwrn eich bod yn iach, a da oedd genym hyny. Gobeithio eich bod yn parhau felly eto a'r teulu yna oll. Yr ydym ninau yn debyg fel arferol Nid yw eich mam nemawr salach er pan y daethum adref.

Mae y plant yn iach, ac wedi bod yn blant pur dda tra y bum i ffwrdd. Go wanaidd yr wyf fi yn teimlo fy hun hyd yn hyn; ond yr wyf yn dal i obeithio gwella peth fel y cerddo yr amser, os gwêl y Brenin mawr hyny yn oreu. Byddaf yn ceisio meddwl fod fy amserau yn ei law; am dyled am braint yw ymddiried ynddo byth. Ond pa bryd bynag y byddaf fil farw, mawr ddymunwn fod fy mhlant i gyd yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. Bum yn meddwl llawer am y geiriau hyny yn y drydedd benod o'r Datguddiad, Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Y goron fwyaf o bob peth yw duwioldeb. Dyna yw prydferthwch mwyaf hen ac ieuanc, byw yn dduwiol ymhob peth.

Bum yn meddwl am lawer o ieuenctyd wedi colli y goron hon duwioldeb. Cofia dithau y cyngor, Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Mae holl fywyd y Cristion yn fywyd o lafur ac ymdrech; a chofia na wna yr Arglwydd mo'th waith di a minau. Coroni yr ymdrech y mae Ef bob amser. Arglwydd y lluoedd a fyddo yn Dduw i ti byth.

Dy rieni,

ROWLAND & MARY EVANS.

II

Melin Aberllefenni, Hyd. 28, 1865

Anwyl Frawd,—

Dyma hir ei ddisgwyl wedi dyfod o'r diwedd. Gallaf ddweyd na fu fawr o ddyddiau er pan welais dy gefn yn myned heibio y Culyn na byddwn yn meddwl am danat; ac mi feddyliwn dy fod yn barod i ddweyd, "Drwg yw yr arwydd". Nis gwn yn iawn beth i'w roddi i lawr yn mhellach; ond yn gyntaf oll yr wyf yn dra diolchgar am y llythyr a dderbyniais oddiwrthyt. . . . . Hysbysais yn yr eglwys am dani, a da oedd ganddynt oll glywed am