Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/160

Gwirwyd y dudalen hon

danat. Yr ydym hyd yn hyn yn ceisio cofio am danat wrth orsedd gras. Hyderaf dy fod dithau yn cael blâs ar y busnes enillfawr o weddio. Y gweddiwr mawr yw y Cristion mawr. Gall un fod yn rhyw fath o bregethwr mawr, er bod yn weddiwr bychan; ond Cristion bach wedi y cwbl Yr oedd yn dda genyf dy glywed yn dweyd yn y society ddiweddaf cyn ein gadael, dy fod, os nad oeddit yn twyllo dy hun, wedi cyflwyno dy hun i wasanaeth Iesu Grist am byth. Ynglyn Ar ystynaeth yna, mi ddymunwn roddi darn o adnod i ti, a dyna hi, Tydi gwr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. Dymunwn i ti edrych arnat dy hun yn y nodwedd hwn bob amser. Cofia mai gwr Duw ydwyt, nad ydwyt yn eiddot dy hun, ond eiddo dy berchen. A chofia dy fod felly yn eiddo un gwell na thi dy hun, dy fod yn eiddo y goreu, yn eiddo yr hwn sydd yn ffynon pob daioni sydd mewn bod.

Yr wyt yn well, Yr wyt yn well,
Na'r India bell a'i pherlau drud.

Oll yn gyfan, Oll yn gyfan
Ddaeth im meddiant gyda'm Duw.

Mae yr Apostol Paul yn coffâu y teitl hwn ar y pregethwr ieuanc gyda golwg ar ysbryd ymgyfoethogi, caru arian, yr hyn a welai efe yn ffynu yn fawr yn y wlad y pryd hwnw. Tydi, gwr Duw, gochel. Mae llawer o'r un ysbryd yn y byd yn ein dyddiau ninau. Arian yw y peth mawr sydd yn ferw mewn byd ac eglwys. Ac feallai ei fod ymysg y gwyr ieuainc sydd yn yr Athrofa: os nad ydyw, goreu oll Ond tydi, gochel y pethau hyn. A dilyn gyfiawnder, dilyn dduwioldeb, dilyn ffydd, dilyn gariad, amynedd, addfwyndra. Mae y pethau hyn oll yn werth i redeg ar eu hol, ac nid yn unig i fyned i ben y gamfa i'w cyfarfod, ond dros y gamfa i ganol y cae er mwyn cael gafael ynddynt.

Pe digwyddai i'r temtiwyr dy demtio i falchio, dywed wrtho mai gwr Duw ydwyt; ac nad oes genyt ddim ond a dderbyniais, mai Duw a roddodd i ti y ddawn sydd genyt er mwyn ei eglwys a bwrcaswyd â phriod waed ei Fab, tad ydyw y cwbl yn ddim i ti ond chwanegiad llafur corff a meddwl. Ie dywed mai baich yw y dalent a roddwyd arnat; ond cofia hefyd mai nid baich i'th lethu, ond baich a defnydd cynhaliaeth ynddo ydyw. Gochel i ddim o wynt Haman chwythu arnat. Os digwydd i ryw wynt drwg chwythu arnat saf bob amser yn ymyl y groes. Ar ei liniau, ac ar ei wyneb ar y ddaear yr oedd Iesu Grist yn ei gyfyngder. A dyna y fan i ti a minau i disgwyl goruchafiaeth.

Yr wyf yn dra hyderus na thramgwyddi wrth y geiriau hyn, ond y cymeri hwynt yn ffrwyth caredigrwydd. Maent yn codi oddiar gariad atat, a gwir ofal am danat. Bendith y nefoedd ath ddilyno. Ni byddi byth yn fwy cysurus nag y dymunwn i ti fod. Yr ydym ni yma o drugaredd Yn. weddol iach. Llythyr yn fuan.

Dy hen frawd
R.EVANS