Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/161

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD X

CYDWEITHWYR ROWLAND EVANS YN ABERLLEFENNI

CRYBWYLLASOM eisoes am un o'r rhai boreuaf o honynt, sef Richard Owen, Ceiswyn. Un arall teilwng o grybwylliad parchus ydoedd Thomas Hughes, y Tŷ Uchaf, ac wedi hyny o'r Caecenaw, a thrachefn o Grachfynydd. Yn Bwlch Helygen y ganwyd ac y magwyd ef, ac y mae rhai o'r teulu yn aros yno eto. Diweddodd ei oes yn Braich-llwyd, gerllaw Dinas Mawddwy, tua 1845 Yn ei dy ef, y Tŷ Uchaf, y dechreuwyd pregethu yn Aberllefenni; ac yr oedd ef a'i briod, Margaret Hughes, yn wir grefyddol. Yr ydym yn cofio y ddiweddaf yn dda; ond yr oedd Thomas Hughes wedi marw cyn cof genym. Meibion iddynt hwy ydyw Hugh Hughes, Tyddyn-du, yr hwn sydd flaenor ffyddlawn ers blynyddoedd yn Rhiwspardyn, a David Hughes, Corris (o'r Fron fraith gynt), ar diweddar John Hughes, Blaenglesyrch; ac yr oedd iddynt hefyd amryw ferched. Gŵr duwiol iawn oedd T. H, a chywir hollol ymhob peth. Darllenasai lawer ar y Beibl ac ychydig lyfrau eraill, ymysg pa rai y dywedai y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, fod Llyfr Gurnal. Treuliodd ef a Rowland Evans oriau lawer gwaith wrth ddyfod i fyny o'r Cyfarfod Eglwysig yn Nghorris i siarad am bethau crefydd; a byddai ar adegau nifer o bobl ieuainc yn eu dilyn er mwyn clywed yr ymddiddan. Ni chafodd fyw i weled yr un o'i feibion yn aelodau crefyddol, er iddo weddio llawer drostynt. Un o'r pethau mwyaf effeithiol