a gofiwn yn adeg y diwygiad yn 1858, daeth llawer iawn i'r eglwys cyn 1859, yr adeg y torodd y gorfoledd allan, ydoedd arosiad un o honynt yn yr eglwys ar nos Sabbath, pryd y coffaodd Robert Jones, Machine, gyda theimlad dwys, sylw Thomas Hughes, ei fod yn credu addewid Duw, y byddai yn Dduw iddo ef ac i'w had ar ei ol Yr oedd y pryd hwnw ymhen blynyddoedd wedi ei gladdu, arwyddion fod yr addewid yn cael ei chyfiawni. Yn gymharol ddiweddar y bu farw ei weddw, ar ol bod am mlynyddoedd lawer yn fam yn Israel. Thomas Hughes a fu yn offeryn i ddwyn Robert Jones ei hun i mewn i eglwys Dduw.
Un o gydlafurwyr ffyddlonaf R. Evans yn Aberllefenni am flynyddoedd ydoedd Howell Jones, Gell Iago. Mab oedd efe i Shon Rhisiard, yr Hen Shop. Nid ydym yn deall iddo gael ond ychydig o fanteision addysg; ond bu yn hynod lafurus gydai addysgiaeth ei hun. Heblaw fod ganddo lawysgrif dda, yr oedd wedi dysgu ysgrifenu Cymraeg yn gywir, ac wedi enill cydnabyddiaeth weddol â'r iaith Saesneg. Darllenasai yn ddiau fwy na neb yn ei ardal; ac yr oedd yn ddyn manwl mewn meddwl ac ymadrodd. Meddai hefyd gôf rhagorl a chydnabyddid ef yn gyffredinol fel y dyn mwyaf gwybodus yn yr holl gymydogaeth. Dygai fawr zêl dros yr Ysgol Sabbothol a chymerai ei ran yn ffyddlawn yn ei dygiad ymlaen. Efe yn ddiau a gyfansoddodd y rhan fwyaf o'r Materion yn y llyfr y cyfeiriwyd ato yn Penod viii. A byddai yn fynych yn holwyddori; ond nid oedd i'w gymharu fel holwyddorwr â Rowland Evans, Yr oedd ei fanylrwydd yn fagl iddo; ac nid oedd neb yn gweled hyny yn fwy eglur nag efe ei hun. Nis gallai er hyny yn ei fyw roddi heibio ei fanylder ac ymollwng i fod yn holwyddorwr effeithiol.
Dyn gwir dda ydoedd; ac yr oedd ei ddylanwad yn fawr yn y gymydogaeth. Dylanwadai ar y rhai goreu a galluocaf ynddi. a thrwyddynt hwy ar y gymydogaeth oll. Bu yn wresog o