Gwirwyd y dudalen hon
felly ymhob man lle y bu yn preswylio; a bu o wasanaeth mawr gydag achos crefydd hyd y diwedd. Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd ei brofiad yn uchel a hapus. Bu farw yn gyflawn o ddyddiau, wedi byw yn serch a chalon ei gymydogion ar hyd y blynyddoedd.
Fel engraifft o'i lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, y mae yn hyfryd genym gael rhoddi o flaen ein darllenwyr y Mater canlynol a barotowyd ganddo
AM GYFEILIORNADAU.
1 CWESTIWN. Pa un a'i cyfeiliorniad a'i gwirionedd yw fod bedydd yn ail enedigaeth?
- ATEB. Cyfeiliorniad echryslawn ydyw.
2 C. Beth yw bedydd?
- A. Arwydd gweledig oddiallan, tra y mae ailenedigaeth yn gyfnewidiad grasol o waith yr Ysbryd Glân ar enaid pechadur. 1 Ioan iii: 5, 6
3 C. Pa fodd y dangoswch yn mhellach nad ydyw bedydd yn ailenedigaeth?
- A. 1. Gwaith dyn ydyw bedyddio, ond gwaith Duw ydyw aileni 1 Ioan v. 1
- 2 Mae yn amnhosibl i'r arwydd fod yr un peth ar hyn a arwyddoceir. Mat. iii. 11
- 3 Oddiallan ar y corff y gosodir yr arwydd, tra y mae yr hyn a arwyddoceir. yn dumewnol ar yr enaid. 1 Pedr iii. 21; Ioan iii. 6
- 4 Fe gafodd y tair mil yn Jerusalem, eu haileni cyn eu bedyddio; ac am hyny nis gall bedydd fod yn ailenedigaeth. Actau ii. 41
- 5 Fe gafodd Saul o Tarsis ei aileni cyn ei fedyddio, a Lydia hithau yr un modd. Actau ix. 4, 5, 11, 17, 18; a xvi. 14, 15
- 6 Fe gafodd y lleidr ar y groes ei aileni, ond ni chafodd ei fedyddio. Luc xxiii. 43
- 7. Fe gafodd Simon Magus ei fedyddio, ond ni chafodd ei aileni. Actau vii. 23
- 8 Pan sonir yn y Beibl am aileni, dywedir yn gyffredin ei fod o Dduw. 1 Ioan ii. 29; iii. 9; iv. 7
4 C. Paham y dywed neu yr haera rhai fod bedydd o weinyddiad