- 4 Nid oes angenrheidrwydd am wyrthiau i argyhoeddi pechaduriaid ac i berffeithio y saint, oherwydd fod moddion addas wedi eu hordeinio. 2 Tim. iii. 16, 17
10.C. A ddylem ni Gristionogion wrthwynebu cyfeiliornoadau?
- A. Dylem
- 1. O ufudd—dod i orchymyn yr Arglwydd, ac er amddiffyniad i'w ogoniant. Esaiah xliii. 10, 12
- 2 Heb hyny nis gallwn ateb i'r enwau sydd arnom yn y Beibl. 1 Tim. iii, 15
- 3 Dylem wneuthur hyny o gariad a thosturi at yr eneidiau sydd yn cael eu hudo trwy gyfeiliornadau. Deut. xiii. 6, 8, 9, 10
- 4 Dylem ei wnenthur i ddangos ein zêl dros Dduw a'i Air, ac er dilyn esiampl yr Apostolion Mat. xxii. 29; Actau xiii. 8, 9, 10
Nid ydym yn dymuno ychwanegu. unrhyw sylwadau beirniadol na chanmoliaethol ar y Mater hwn. Dichon y dylid crybwyll fod Cwestiwn 4 yn seilledig ar gamsyniad, gan yr haera y Pabyddion ar uchel Eglwyswyr fod bedydd a weinyddir yn enw y Drindod gan unrhyw un yn ail enedigaeth. Gwelir yn y Mater arwyddion o lafur mawr; ac amlwg yw, fel y crybwyllwyd eisoes, fod llafur gwerthfawr ymysg aelodau yr Ysgolion Sabbothol yn Aberllefenni yn nyddiau y Materion hyn. Gofelid yn wastad am anfon rhan o bob Mater i Ysgol y Fronfraith.
Mae dau eraill a alwyd yn flaenoriaid yn Aberllefenni, ac a wasanaethasant y swydd am rai blynyddoedd gyda Rowland Evans yn deilwng o grybwylliad parchus, sef Robert Lumley a Richard Jones. Yn yr eglwys yn Aberllefenni, yn 1852, nid oedd ond dau swyddog, sef Rowland Evans a Samuel Williams. Galwyd wedi hyny Robert Owen, Llwynmafon, yn awr o'r Pandy, Corris. Ar ei ol ef, dewiswyd Robert Lumley, ac ymhen amser drachefn Richard Jones, Blue Cottages. Ymadawodd R. Lumley i Abergynolwyn i dreulio blynyddoedd diweddaf ei oes. Gŵr da ydoedd; a gŵr ag yr ydym ni dan rwymau