ysbryd cyfeiliorni gael y llaw uchaf arni, ac iddi yn anffodus droi ei gwyneb eilwaith tua Chulyn Pimwern. Erbyn hyn yr oedd y mater wedi myned mor ddifrifol fel nad oedd dim i'w 'wneyd ond myned i erfyn ar Mr. Owen, Braichgoch, — oracl y gymydogaeth, ddyfod i estyn cyfarwyddyd. A thrwy nerth y gweision oedd wrth ei alwad, yn hytrach na thrwy unrhyw ddoethineb neillduol o’i eiddo yntau, y llwyddwyd, wedi llawer o chwysu a baeddu, i droi gwyneb y bedrolfen gyfeiliornus unwaith yn ychwaneg tua’r Hengae. Yr oedd cert eisoes mewn ychydig o’r ffermydd mwyaf, ond y ffordd gyffredin gan y man ffermwyr i gludo nwyddau oedd, ar ysgwydd dyn, neu gefn ceffyl. Codid rhyw gymaint o geirch ymhob fferm. Yr oedd "codi clwydaid o geirch" yn ymadrodd cyffredin ymysg y trigolion. Dyrnid ef bob amser cyn yr adeg i droi yr anifeiliaid i mewn dros y gauaf; a chan y prif amaethwyr cymerid ef i'r Felin yn y gert, ond gan y man amaethwyr benthycid ceffylau y cymydogion, ac wedi gosod pwn ar gefn pob un, hebryngid hwy yn rhes faith tua’r Felin. Byddai yn gyffredin hogyn neu ddau gyda phob ceffyl, er mwyn y pleser o gael eu cario adref; ac arolygid yr orymdaith bob amser gan yr amaethwr ei hun. Diwrnod pwysig oedd y dydd y byddai "clwydaid o geirch" ar ei ffordd i’r Felin; ac nid oedd cyffelyb iddo ar hyd y flwyddyn ond y dydd y cyrchid y "glwydaid" yn ol.
Un adeg ar oes Hugh Humphrey, o Lwydiarth, nid oedd ceir llusg i gludo gwair amser cynhauaf yn bethau cyffredin; a lled anhwylus a thrafferthus fyddai gyda hwynt yn fynych yn y manau lle byddent. Yn y Fronfraith, ryw dro, yr oedd helynt anghyffredin. Pallodd amynedd Hugh Humphrey, a gorchymynodd iddynt ddadfachu y ceffylau, a chodi y car a’r llwyth ar ei ysgwyddau ef. Yr oedd yn ei ddyddiau goreu yn gawr mewn nerth; a buan iawn y rhoddodd y baich hwn i lawr ar ben y bryn. Oddiwrth y ffeithiau hyn, gwelir mai tra chyntefig