Un a haeddai grybwylliad helaeth ydyw John Stephen. Brodor o Ffestiniog ydoedd ef, a brawd i'r gweinidog enwog ac adnabyddus y diweddar Barchedig Edward Stephen, Tanymarian. Dygwyd ef i fyny gyda'r Methodistiaid; ond ymadawodd oddiwrthynt, i ddechreu at y Wesleyaid, ac wedi hyny at yr Annibynwyr. Gŵr o yni anghyffredin ydoedd, ac yn llawn o ysbryd a bywyd yn wastad. Tua'r flwyddyn 1835 y daeth i Aberllefenni, ac ymhen dwy flynedd, priododd wraig weddw, yr hon yr oedd iddi amryw ferched, ar hon y crybwyllwyd am dani yn flaenorol. Un o'r rhai hyn ydoedd Elizabeth, ail wraig Evan Owen, Cambergi, a mam y Parchedig John Owen, Aberllefenni Un arall, Margaret, ydoedd gwraig gyntaf y diweddar William Davies, Aberllefenni. Bu yr ieuangaf o honynt, Gwen, farw yn ddi—briod.
Yn nhyr capel, Pantymaes, y gallwn gofio J. S, yn 1852; ac o'r, adeg gyntaf y daethom dan ei ddylanwad, bu iddo le parchus yn ein meddwl. Gellir ei ystyried yn gychwynydd achos yr Annibynwyr yn Aberllefenni; ac am flynyddoedd efe oedd yn fwyaf llafurus ac ymdrechgar gydag ef. Yn ei flynyddoedd olaf bu yn aelod gyda'r Methodistiaid. Ni chollodd erioed ei serch atynt, a phan ddychwelodd atynt gwnaeth ei gartref ar unwaith yn gwbl ddedwydd gyda hwynt.
Gyda dirwest yr oedd yn hynod wresog o'r cychwyn, a pharhaodd felly hyd ddiwedd ei oes. Nid ydym yn tybio y gwelwyd yn nghanol y cynwrf mwyaf neb yn fwy zelog nag efe. Barnai ei briod, Susannah, yr hon oedd o dymer dra gwahanol iddo, ei fod yn rhy boethlyd ar adegau; a digwyddodd rhyngddynt rai pethau lled ddigrifol. Parhaodd yn ffyddlon ac yn wresog hyd derfyn ei ddydd. Ac yr ydym ni yn ddyledus iddo am y gefnogaeth a gawsom ganddo ar lawer adeg pan y ceisiem ddywedyd ychydig yn mlynyddoedd ein mebyd ar yr achos dirwestol.
Tros addysg hefyd bu yn dra llafurus; ac ni laesodd ei