Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

oedd amaethyddiaeth y dyddiau hyny o angenrheidrwydd yn ei holl ranau.

Yr oedd dillad yr amaethwyr bob amser o wneuthuriad cartrefol. Ni byddent byth yn gwerthu y gwlan, ond yn ei gribo, ei nyddu, a’i wau gartref, er gwneuthur o hono wahanol ddilladau at angenion y teuluoedd. Yn y gauaf dyma fyddent y gorchwylion cyffredin; a rhaid oedd i bob gorchwyl arall a phob ymddiddan fyned ymlaen yn sŵn chwyrlïad y troellau.

Trwy lafur caled a chyson y llwyddai yr holl amaethwyr i ddiwallu eu hangenion eu hunain a’u teuluoedd; ac ychydig a brynid ganddynt o ddefnyddiau ymborth na dillad. Ar gynyrchion eu tiroedd yr oeddynt yn ymborthi ac yn ymwisgo ond yr oedd yr ymborth yn iachus, a’r dillad hefyd yn gynes a gweddus. Ac yr oedd eu bywyd, er bod yn galed, yn un gweddol foddlawn.

Ar y llafurwyr yr oedd yn fwyaf prin. Anfynych y gallai yr amaethwyr roddi gwaith iddynt, oddieithr pan fyddai angen codi clawdd cerig o gwmpas darn o ffridd neu fynydd; a gorfodid hwy gan hyny i fyned i ardaloedd eraill yn fynych i ymofyn am dano. Cyflogent weithiau wrth y flwyddyn neu yr wythnos, a phrydiau eraill gweithient wrth y darn; ond bob amser bychan fyddai y cyflog. O drugaredd yr oedd llaeth a phytatws yn weddol helaeth a rhad; a mawn o’r mynyddoedd fyddai y tanwydd cyffredin, y rhai a geid mewn cyflawnder am ddim, ond y drafferth o’u tori a’u cynhauafa. Yr oedd gan eu gwragedd a’u plant gynlluniau, a ymddangosant erbyn hyn yn lled ddieithr, i enill ychydig geiniogau. Un cynllun ydoedd crafu y cèn .[1]

  1. Derbyniasom y nodiad canlynol oddiwrth y Parchedig John Jones, Tue Brook, Liverpool:— "Bum yn ymddiddan â rhai fu yn casglu y cèn, ac yn ei ddefnyddio. Yn ystod rhyfel Ffrainc yr oedd galw mawr am dano i liwio dillad y milwyr. Yr oedd trigolion Dolgellau yn enwog am eu diwydrwydd a’u llwyddiant gyda’r fasnach hon; a dywedir fod amgylchiadau trigolion y lle yn fwy clyd na’r cyffredin hyd heddyw oherwydd yr elw a wnaethant hwy a’u hynafiaid trwy gasglu y cèn. Mae hyn mewn arferiad hyd heddyw mewn ardaloedd gwledig.