Yr oedd Dafydd Owen yn wr syth, cydnerth, o ran ei gorff, yn zelog a ffydllawn fel crefyddwr; ac o ran ei farn yr oedd fel y dywedai Glan Alun, am Angel Jones, yn:
Hen Galfin at y gwraidd;
Yn wir fe gloddiai ambell dro
Yn is na hyny braidd..
Yr oedd iddo hefyd lais clochaidd uchel; a dawn rwydd a pharod. Pan y cofiwn ef gyntaf yr oedd yn dal rhyw swydd dan y boneddwr Mr. Anwyl, o'r Hengae; ond wedi hyny daeth yn oruchwyliwr y coed i Mr. Pryce, yn Aberllefenni; a pharhaodd i lanw y swydd hono hyd ddiwedd ei oes.
Fel yr awgrymir uchod yr oedd ei Galfiniaeth yn eithafol, ac nid oedd dim a'i boddiai yn y pregethau ond sylwadau cwbl Galfinaidd. Pan y ceid hyn codai ar ei draed gyda'r sydynrwydd mwyaf, gan edrych yn siriol, i ddechreu ar y pregethwr, ac yna ar ryw gyfeillion o'i amgylch y tybiai oeddynt mewn cydymdemlad agos neu ynte y gwyddai eu bod yn wahanol a gwrthwynebol. Ond os digwyddai i'r sylwadau am raslonrwydd trefn yr efengyl gael eu dilyn gau gyfeiriadau at ddyledswydd dyn, byddai y cymylau yn ymdaenu dros ei wynebpryd ar unwaith, ac eisteddai i lawr fel dyn hollol siomedig. Yr hyn y gellid ei ddarllen yn amlwg yn ei wedd fyddai y Cwestiwn a ofynid ganddo yn fynych yn ei ymddiddanion, I ba ddiben y cyinhelir dyn sydd yn farw ysbrydol at ei ddyledswydd?
Mynych y dywedai, a mynych yn wir y dangosai, nad oedd ganddo amynedd i wrando pregethu dyledswyddau. Ond yr oedd ei ddyddordeb yn ddwfn yn yr athrawiaeth; ac ni flinai byth yn ei thrafod tra y caffai hyny ei wneuthur yn ddigon Calfinaidd.
Camgymeriad fyddai dywedyd fod ei syniadau yn eang ar unrhyw fater; ac ofnwn y rhaid ychwanegu fod ei feddwl wedi ei gau ers blynyddoedd i argyhoeddiad ar bob pwnc yr oedd wedi talu unrhyw sylw iddo. Nid oedd teimlad dwfn ychwaith