yn yr ardal; ac yr oedd Jane Jones yn wraig Aberllefenni; ond er bod yn barchus nid oedd neb o honynt yn meddu safle dywysogaidd. Nid oes genym wybodaeth pa bryd y bu farw Jane Roberts na Jane Jones, na thros ba hyd, mewn canlyniad, y cafodd yr achos eu presenoldeb a'u dylanwad hwy yn ei ffafr. ond y mae un peth yn sicr, mai nid anffyddlondeb y cychwynwyr oedd y rheswm am arafwch y cynydd. Gwelsom iddynt gael eu taflu i ddigalondid mawr un tymor, ac iddynt ollwng y Cyfarfod Eglwysig wythnosol i lawr am beth amser; ond gwelsom hefyd y profion cryfaf o ffyddlondeb y tadau ar mamau yn nghanol y digalondid mwyaf. Rhy anhawdd yw dywedyd i ba raddau yr oedd y llwyddiant amlwg, ar seiliau diogel, mewn blynyddoedd diweddarach, yn ddyledus i lafur cyson Dafydd Humphrey a'i gydoeswyr. Cadwasant y Tŷ yn agored yn ngauaf aflwyddiant, cadwasant y tân yn gyneuedig ar yr aelwyd yn nghanol pob oerni oddiallan; ac ni chollasant un cyfleusdra i wahodd eu cymydogion i ddyfod i mewn. Cerddodd D. H. lawer ar hyd yr ardaloedd i gymell dynion i foddion gras ac at grefydd; a chyn diwedd ei oes cafodd weled ei lafur wedi ei goroni â llwyddiant ymhell tu hwnt i'w ddisgwyliadau uchaf ei hun. Erbyn hyn, y mae Methodistiaeth mor gref yn yr ardaloedd fel y mae yr addysg a dynir uchod oddiwrth hanes ei chychwyniad, na raid i neb, yn un man, arobeithio am lwyddiant teymas yr Emanuel, yn rhwym o ymddangos i'r rhai hynaf yn y gymydogaeth yn bresenol yn dra dieithrol.
Credwn fod heddwch a chydweithrediad wedi bod, ar y cyfan, yn nodweddau amlwg Methodistiaeth y dosbarth hwn o'r dechreuad. Yr oedd y pwyllgor arianol sydd yn awr yn sefydliad mor bwysig mewn cysylltiad âg eglwysi Liverpool a manau eraill, yn bod mewn rhyw ffurf yn Nghorris fwy na haner can mlynedd yn ol.
Ond pa un bynag a'i bodolaeth y pwyllgor hwn a'i ynte