Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/188

Gwirwyd y dudalen hon

Mae addysg yn ddiau wedi cael sylw neillduol yr ardaloedd; ac nid gormod ydyw dywedyd ei bod ar hyn o bryd mewn sefyllfa mor foddhaol ag mewn unrhyw gymydogaeth gyffelyb yn Ngogledd Cymru.

Peth arall sydd wedi nodweddu Methodistiaid Corris ar amgylchoedd ydyw eu ffyddlondeb i'r Achos Dirwestol. O'r flwyddyn 1836, y mae eu llafur gyda dirwest wedi bod yn gyson. Cyfeiriwyd eisoes at yr Wyl Ddirwestol ar Iau y Dyrchafael, sydd wedi parhau yn ei gogoniant trwy y blynyddoedd; ac ni ollyngwyd i lawr o gwbl y cyfarfodydd pythefnosol neu fisol yn y gwahanol gapelau, nes y daeth Temlyddiaeth Dda i mewn gydai Chyfrinfaoedd wythnosol. Cadwyd eglwysi Corris ac Aberllefenni hefyd yn lân, i raddau helaeth, oddiwrth y diodydd meddwol.

Gyda'r Achos Dirwestol y daeth canu corawl i fri yn y gymydogaeth; ac o'r canu hwnw y cychwynodd y canu corawl a chynulleidfaol sydd wedi rhoddi i Gorris safle barchus yn Meirionydd mewn cysylltiad â cherddoriaeth gysegredig.

Nid oes un amheuaeth nad yw ffyddlondeb yr ardaloedd hyn i ddirwest yn cyfodi o'u crefydd; ac nid oes amheuaeth ychwaith nad yw eu ffyddlondeb i ddirwest wedi effeithio yn ddaionus ar eu crefydd. Dyma yn ddiau i fesur mawr y rheswm am y teimlad da ar cydweithrediad rhwng y gwahanol enwadau, sef eu cydweithrediad cyson gyda'r Achos Dirwestol. Mae y Methodistiaid yn Fethodistiaid zelog, y Wesleyaid yn Wesleyaid zelog, ar Annibynwyr yn Annibynwyr zelog; ond trwy gydgyfarfod yn nghapelau eu gilydd gyda'r achos hwn y maent wedi llwyddo i raddau rhyfeddol i gadw yn fyw; gyda zêl dros eu henwad eu hunain, y teimladau mwyaf rhydd a charedig tuag at enwadau eraill. Bu cydweithrediad cyffelyb mewn Cymdeithas Lenyddol yn Rehoboth Cofiwn yn dda am y Gymdeithas hono, ac y mae ein rhwymau yn fawr iddi. Yr