oedd y diweddar Barchedigion James Evans ac R. T. Owen yn aelodau o honi yr un pryd.
Cyn terfynu, rhaid i ni wneuthur crybwylliad byr am y brodyr a godwyd i bregethu yn yr eglwysi hyn. Nid oes genym ddim y dymunwn ei ychwanegu gyda golwg ar y ddau y cyfeiriwyd atynt eisoes, sef y diweddar Barchedigion John Jones, Brynteg, a Morris Jones, Aberllefenni, er fod y cyntaf o honynt; yn arbenig, yn haeddu crybwylliad llawer helaethach nag y mae yn ein meddiant ni y defnyddiau at ei roddi.
Yn Nghorris, ni chyfodwyd neb i bregethu ar ol y brodyr hyn hyd nes y dechreuodd y Parchedig John Roberts, yr hwn sydd yn awr ar ymweliad â'r wlad hon, wedi bod am uwchlaw deuddeng mlynedd yn genhadwr llafurus a llwyddianus ar Fryniau Khassia yn India'r Dwyrain. Mab ydyw ef i'r diweddar Richard Roberts, Gwyngyll, yr hwn ydoedd saer maen wrth ei alwedigaeth, a Jane, ei ail wraig. Bu farw y tad pan yr oedd ei fab John oddeutu naw mlwydd oed. Yn ddiweddar yn ei oes y daeth Richard Roberts at grefydd. Yr oedd bob amser yn ddyn moesol, ac yn tueddu at fod yn hunan—gyfiawn. Tybiai ei fod lawn cystal a llawer o'r rhai a gymerent arnynt fod yn grefyddol; ond trwy drugaredd Duw daeth i weled mai pechadur ydoedd, ac fel pechadur daeth i ymofyn am le yn nhŷ Dduw, yr hwn a gafodd gyda chroesaw. Ni estynwyd iddo lawer o flynyddoedd. Gŵr call craffus ydoedd, a hynod fedrus ac ymdrechgar gydai alwedigaeth, ac un a berchid yn gyffredinol gan ei gymydogion.
Gadawodd ei weddw gyda phedwar o blant ar haner eu magu, un ferch a thri o feibion. Arosodd John gyda'i fam i ofalu yn garedig am dani, oddigerth ychydig amser y bu yn gweithio yn Nhrawsfynydd a Ffestiniog, nes oedd wedi dechreu pregethu. Derbyniwyd ef fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, Hydref 4ydd ar 5ed, 1863 Wedi treulio pedair blynedd yn Athrofa y Bala, a thymor yn Mhrifathrofa