yr America, y Parchedig Evan D. Humphreys, Fairhaven, Vermont, yr hwn y cyfeiriwyd ato yn y benod flaenorol.
Dichon y goddefir i ni yn y fan hon wneuthur crybwylliad am rai brodyr a gychwynasant eu gyrfa weinidogaethol yn yr ardaloedd hyn gydag enwadau eraill. Nid ydym yn cofio neb ddechreu pregethu gyda'r Annibynwyr yn Nghorris ond y Parchedig Roderic Lumley, sydd yn awr yn llafurio yn Trevor, Sir Gaernarfon. Gyda'r Wesleyaid y codwyd y nifer fwyaf i'r weinidogaeth. Yr oedd yn eu mysg hwy o'r cychwyn lawer o wres a theimlad, awydd canmoladwy i feithrin pob doniau at wasanaeth crefydd, a pharodrwydd i roddi y gefnogaeth angenrheidiol i unrhyw ŵr ieuanc y ceid lle i gredu ei fod yn meddu cymhwysderau at y weinidogaeth; ar canlyniad fu i nifer liosog o frodyr droi allan o'u plith yn bregethwyr a gweinidogion effeithiol a llwyddianus. Gan fod y rhan amlaf o'r rhai hyn eto yn fyw, nid priodol fyddai i ni wneuthur unrhyw sylwadau arnynt; ond dodwn i lawr ychydig nodiadau ar ddau o honynt sydd ers blynyddoedd bellach wedi gorphwys oddiwrth eu llafur, sef y Parchedigion R. T. Owen a James Evans. Anrhydedd mewn gwirionedd i'r eglwys yn Carmel ydoedd cael rhoddi cychwyniad i'r ddau weinidog hyn; a cholled fawr i'r holl gyfundeb oedd eu marwolaeth gynar ac (i'n golwg ni) anamserol.
Yn Glanderi, Corris, y ganwyd R. T. Owen, Mai 13, 1842 Ei rieni oeddynt Owen ac Elisabeth Owen. Bu ei frawd, Mr. David Owen, pregethwr cynorthwyol gyda'r un enwad, yn llanw un o'r safleoedd cyhoeddus mwyaf pwysig yn Nghorris am flynyddoedd: ond y mae wedi symud ers amser bellach i gymydogaeth y Brifddinas. Dechreuodd R. T. Owen bregethu yn Medi, 1860, pan nad oedd ond ychydig fisoedd uwchlaw 18 mlwydd oed. Teimlodd bethau grymus yn niwygiad crefyddol 1859—60; ac aeth allan i bregethu Crist yn ngwres y diwygiad. Daeth yn boblogaidd ar unwaith; ac yn Medi, 1861