Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/192

Gwirwyd y dudalen hon

cafodd ei alw fel Pregethwr Cyflogedig i Nefyn, yn Nghylchdaith Pwllheli. Derbyniwyd ef i waith rheolaidd y weinidogaeth yn 1862; ar lle cyntaf yr anfonwyd ef i lafurio ynddo ydoedd Birkenhead. Symudodd oddiyno i Bethesda, yn 1863; aeth i Lanfyllin yn 1865, i Gaerlleon yn 1867, ac i Porthdinorwig, yn 1869 Yn y lle hwn y bu farw Hydref 2, 1871, yn 29 mlwydd oed.

Cawsom y fraint o fod yn gyfaill mynwesol iddo yn nyddiau ein mebyd; a hawdd fyddai i ni ysgrifenu llawer am ei gymeriad a'i lafur. Yn y fan hon, pa fodd bynag, nid gweddus fyddai ymollwng gyda'n teimladau. Ni chafodd un gŵr ieuanc erioed yrfa fwy llwyddianus. Er na chawsai braidd ddim manteision addysg yn nechreu ei oes, ac nad oedd ei gyfleusderau i gasglu gwybodaeth am rai blynyddau wedi iddo fyned trwy dymor mebyd ond tra phrinion, ymroddodd i lafur caled a'i galluogodd i orchfygu pob anhawsderau, ac i guddio yn dra effeithiol o olwg pawb ond efe ei hun bob arwyddion o'i amddifadrwydd o fanteision boreuol. Yr oedd yn amlwg wedi ei dori allan i bregethu, ac yn meddu y cyfuniad mwyaf dymunol o'r cymwysderau angenrheidiol at fod yn llwyddianus yn ei weinidogaeth. Yn gyntaf oll, meddai ddynoliaeth dda. Yr oedd yn serchog a synwyrol, yn llawn arabedd a sirioldeb, ac eto yn nodedig o graffus i adnabod dynion a medrus i'w trin. A thrwy y nodweddau hyn bu mor llwyddianus fel bugail ag ydoedd fel pregethwr. Ymhob cylch, yr oedd rhyw swyn ynddo a'i gwnelai yn anwyl gan bawb a ddeuai i gyffyrddiad âg ef. Yr oedd hefyd o dduwioldeb dwfn a diamheuol; ac anaml y gwelwyd ymgysegriad llwyrach i waith y weinidogaeth na'r eiddo ef. Byr fu ei yrfa; ond pery ei waith yn hir. Cofir am dano gyda serchogrwydd ymhob man lle y bu yn llafurio; ac nid oes amheuaeth na ddychwelwyd ugeiniau lawer at Grist trwy ei weinidogaeth. Yn ystod yr ychydig flynyddau a gafodd, nid oedd un gweinidog ieuanc yn fwy ei boblogrwydd a'i ddylanwad