ymhlith y Wesleyaid; ac y mae yn amheus a oedd mwy nag un o'i gyfoedion y gellid ei gymharu âg ef yn y pethau hyn. Ond yn nghanol ei boblogrwydd, parhaodd yn gwbl ddirodres diymhongar. Erioed ni welwyd yn wir gymeriad mwy dymunol; ac anmhosibl ydyw traethu maint y golled a gafwyd trwy ei farwolaeth cyn ei fod yn llawn 30 mlwydd oed. Ymddangosodd Cofiant rhagorol iddo, yn 1875, gan y Parchedig Hugh Jones, yn awr o gylchdaith Shaw Street, Liverpool ynghyd â detholiad o'i Bregethau.
Ganwyd James Evans yn y Dafarn—newydd, Corris, Gorphenaf 12, 1841 Ei rieni oeddynt Robert ac Anne Evans. Gwnaed crybwylliad am ei daid, o du ei fam, James Evans, Tyn llechwedd, yn Penod iii. Cychwynodd James Evans ac R. T. Owen eu gyrfa fel pregethwyr yr un adeg; ond yn araf mewn cymhariaeth i'w gyfaill y daeth James Evans i'r golwg. Ac yr oedd hyn i'w briodoli yn unig i wahaniaeth naturiol rhwng eu galluoedd. Yr oedd J. E. wedi cael llawer gwell parotoad yn nyddiau ei febyd nag R. T. O, ond y diweddaf a ymwthiodd er hyny ar unwaith i ffafr y cyhoedd. A chymerodd J. E. rai blynyddoedd, ar ol dechreu pregethu, i gael rhagor o ysgol, tra na chafodd ei gyfaill o hyny hyd ei fedd ddiwrnod o hamdden at unrhyw efrydiaeth ond yn nghanol llafur gweinidogaethol o'r fath galetaf. Yn 1864, ddwy flynedd, yn ddiweddarach na'i gyfaill, y galwyd J. E. i'r gwaith rheolaidd, er ei fod yntau, tra yn yr ysgol yn Abertawe, yn gwasanaethu y gylchdaith hono yn gyson. I Lanrwst yn Tach wedd y flwyddyn hono, mewn canlyniad i farwolaeth y Parchedig Owen Evans, yr anfonwyd James Evans i ddechreu ei lafur. Yn 1865, aeth i Porthdinorwig, yn 1866 i Lansilin, yn 1868 i gylchdaith Amlwch, yn 1869 i Liverpool yn 1871 i Coedllai, ac yn 1874 i Ddolgellau, lle y bu farw Hydref 15, yr un flwyddyn, yn 33 mlwydd oed. Heblaw fod oes y ddau frawd hyn yn fyr, cawsant gryn dipyn o afiechyd a'u hanalluogodd