Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/194

Gwirwyd y dudalen hon

i lafurio o gwbl am rai misoedd, ac am rai blynyddoedd gyda'r effeithiolrwydd y gwnaethent pe yn mwynhau iechyd cryf. Gwnaeth y ddau niwed i'w cyfansoddiadau trwy aros. i fyny gyda'u gilydd un noswaith gyfan o bob wythnos i gyefrydu gwahanol awduron, tra yn gweithio yn galed y dydd drachefn gydau gorchwylion. Gwelir i'r ddau gael eu galw i rai o gylchdeithiau pwysicaf y dalaeth, megis Liverpool a Chaemarfon; ac y mae eu coffadwriaeth ymhob man lle buont yn fendigedig. Dechreu dyfod i'r golwg yr oedd James Evans pan y bu farw. Yr oedd y ddau frawd yn wylaidd yn naturiol, a bu gwyleidd—dra J. E. yn brofedigaeth a magl iddo i ryw fesur hyd y diwedd. Er ei fod yn gerddor rhagorol, ac yn hoff mewn gwirionedd o gerddoriaeth, ni ddeuwyd i ddeall hyd o fewn ychydig flynyddoedd i derfyn ei oes y gwasanaeth gwerthfawr y gallasai ei gyflawni gyda cherddoriaeth y cysegr. Yn y cylchdeithiau y bu yn llafurio, deallid yn fuan ei werth; ac at ddiwedd ei oes yr oedd yntau yn ymollwng yn fwy rhydd i gymeryd y lle a berthynai iddo. Yr oedd ganddo hefyd adnoddau a fuasent yn rhwym o hawlio iddo mewn amser le parchus ymysg y rhestr flaenaf o weinidogion ei enwad yn y Dywysogaeth. Colled fawr i Wesleyaeth ac i grefydd yn Nghymru oedd marwolaeth gynar y brodyr anwyl hyn. Ymddangosodd Cofiant gwerthfawr i'r Parchedig James Evans, yn yr Eurgrawn am 1880, wedi ei ysgrifenu gan y Parchedig W.H. Evans, yn awr o'r Abermaw. Yn Nghladdfa Bangor y gorwedd llwch y Parchedig R. T. Owen; ac yn nghladdfa yr Eglwys Sefydledig yn Nghorris y gorphwys yr hyn sydd farwol o'r Parchedig James Evans. Tra parhaodd eu dydd, gweithiasant yn egniol; ac y maent ill dau yn ddios yn awr yn myned i mewn i lawenydd eu Harglwydd. Mae yn nghapel Siloh, Corris, goflechau (tablets) hardd a threulfawr wedi eu gosod i fyny er anrhydedd i goffadwriaeth y naill ar llall.

Nid yw yn perthyn i ni wneuthur unrhyw sylwadau ar y