O falurion daear Corris
Gelwir ef i'r ddeheulaw.
Anfonwyd y llinellau canlynol i ni i'w dodi yn ein llyfryn gan ein hen gyfaill Mr. Evan Morris (Ieuan Meurig), Abergynolwyn, yr hwn sydd yntau erbyn hyn wedi myned drosodd at y mwyafrif:—
AM HEN DADAU CREFYDDOL CORRIS AC ABERLLEFENNI
O na buasai ban fynyddoedd Cymru,
A'u heirdd lanerchau, heddyw yn llefaru
Eu dwfn gyfrinion am fywydau'r saint
A dreuliwyd ar eu minion! O'r fath fraint
A fuasai ini gael yr hen amodau
Yn ngwres gweddiau taerion fyrdd y tadau
Mae holl lanerchau Cymru'n meddu'r fraint
O fod yn ddirgel—fanau llefau'r saint?
Ond dilyn llwybrau cewri'r llyfr hwn
Yw'n hamcan ni; a gormod gwaith mi wn
Fydd dodi bys ar ddau eu holl rinweddau,
I wasgu allan beth o'u peraroglau
Mae enwau llu o gedyrn crefydd heddyw
Yn fflachio yn ein cof fel sêr tryloyw;
A'u pur gynghorion, fel rhyw aur afalau
Yn nysgl ein cof yn. Nwylaw'n cydwybodau,
Mor newydd, iraidd, heddyw yn eu blas :
A phan y cawsom hwy yn nheymas gras,
Ah! WILLIAM RICHARD a'i blaenusrwydd fyddai
Yn codi n gwrid wrth nodi ein haml feiau!
Ac OWEN JONES yn codi gyda brys,
A thywel cariad, fel i sychu'n chwys;
A WILLIAM JONES, Tanrallt, ar lwybr uniondeb,
Yn cario n gyson faner wen ffyddlondeb.
|