Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/203

Gwirwyd y dudalen hon

Cynghorion GRIFFITH ELLIS o Bensarn,
Belydrant yn fy nghof drwy wawl y Farn!
A HOWELL JONES, bu yntau'n seren Iachau
Yn pefrio drwy ei fywyd diymhongar;
Bu RICHARD JONES a ROBERT LUMLEY, hefyd,
Yn ffyddlon fel dysgawdwyr ein hieuenctyd;
Ond heirdd frenhinoedd ydynt heddyw gyda'r Tad,
A Iesu'n Brawd yn haul a thestyn eu mwynhad.

A HUMPHREY DAFYDD a ROWLAND EVANS, fu
Yn heirdd gadbeniaid ar y tadau cu
Brenin Corris! y gelwid Humphrey Dafydd,
Gyda hawliau y byd a hawliau crefydd
Gwnaeth ef y goreu'n gyson o'r ddangos fyd,
Cawr ar ei egni ydoedd ar bob pryd,
Yn sugno mêl o'r blodau heirdd amserol,
A thrwyddynt esgyn at y dillad dwyfol.

Mab ffawd fu Humphre Dafydd drwy ei oes,
Ond Rowland Evans yntau'n hollol groes;
Trwy ymdrech cadwai i ben uwchlaw y don,
Yn unig yn ei grefydd byddai'n llon;
Ei Dduw a'i deyrnas aeth a'i galon fawr,
Nes aeth yn ddiwerth bron at bethau'r llawr.
O! nefol wên a i hafaidd ymadroddion!
Am eu mwynhad. mae hiraeth ar fy nghalon
Cyfuniad o arafwch a doethineb;
Ireidd—dra ysbryd, drwy ei fawr dduwioldeb,
A fu ei fywyd, er pob croes a thrai,
Nes esgyn fry i wlad anfarwol Fai!

Tuedda'r hen i aros gyda'r hên, ar ol,
A chyfrif pob peth newydd braidd yn ffol;
Ond bu'r ddau dwysog yma'n hollol groes;
Cydweithient hwy â newydd ddull yr oes,
Credent fel eryrod yn eu blaen,
Gan gludo'u rhan, uchlaw pob tramgwydd—faen,
Ar eirch daionus Gymdeithasau'n gwlad;
Ar eu llwyfanau dawnsient mewn mwynhad.