a pharhaodd i fynychu y gwasanaeth gyda chysondeb, trwy wendid a llesgedd mawr, hyd ddiwedd ei hoes. Ar gefn hen gaseg ddu o’r enw Gipsy yr arferai fyned: ond yn ei blynyddoedd olaf, gan nas gallai ymgynal ar y cyfrwy, yr oedd ganddi fath o gadair, wedi ei gorchuddio â brethyn gwyrdd, i eistedd arni, gyda hogyn o was y tu ol, i estyn iddi unrhyw gymorth angenrheidiol. Yr oedd yr hogyn hwn yn hynafgwr yn nyddiau ein mebyd ni; ac y mae wedi marw bellach er’s mwy nag ugain mlynedd. Yn araf iawn y symudai Gipsy; ac anmhosibl ydyw peidio teimlo parch i’r hen foneddiges a elai fel hyn bellder o chwech neu saith milldir i wasanaeth yr Eglwys ar y Sabbathau. Ar y Sadwrn o flaen Sul y cymun, arferai anfon ymborth i’r Tymawr, er mwyn i’r gweision a elent i’r llan gael eu ciniaw yno.
Gyda’r lliaws, pa fodd bynag, nid oedd rhoddi eu presenoldeb yn yr addoliad yn beth cyffredin; a thra bydol oedd amcanion ambell un a wnai hyny. Wrth Efail y Gôf, yn Nghorris, un tro, gofynai bugail Aberllefenni i gyfaill, "A ydych chwi yn myned i’r llan y Sul nesa’" "Na," meddai yntau, "dydw’ i ddim yn gwybod am ddim neillduol yn galw y Sul nesa’." "Byddai yn dda iawn gen’ i," meddai y bugail, "wybod am rywun yn myn’d, oblegid y mae yn y Tyrau Hirion lwdn yn perthyn i Rywogo’; ac y mae arna’ i ofn garw iddo fyn’d oddi-yno cyn iddyn’ nhw glywed am dano fo." "O, wel," meddai ei gyfaill defosiynol a charedig, "os oes rhyw achos fel yna yn galw, mi a’ i yno, a chroesaw." Ac nid ymddengys y teimlai neb fod neges o’r fath mewn un modd yn anghyson âg amcan y gwasanaeth, nac â sanctciddrwydd y dydd; canys yr oedd yn arferiad cyson yno i gyhoeddi arwerthiadau ac i wneuthur hysbysiadau amaethyddol ar y fynwent ar ol y gwasanaeth, cyn i’r gynulleidfa ymwasgaru. Dywedir mai Richard Anthony, yr hwn y daw ei enw gerbron fel un o Fethodistiaid boreuaf Corris,