Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

Mae yn weddol eglur mai y pregethwr yn yr amgylchiad hwn ydoedd yr hanesydd ei hun ; ond nid yw mor eglur pa un ai y bregeth hon ai ynte un arall yr aeth y tri a enwyd o ardal Corris i'w gwrando. Wrth roddi hanes yr odfa yn 'Methodistiaeth Cymru (i. 569) dywed y Parchedig John Hughes mai Robert Jones oedd y pregethwr : ond pan yn rhoddi hanes mynediad Dafydd Humphrey, a'i briod, a'i fam-yn-nghyfraith' i'r un odfa (tudalen 579) awgryma fod amheuaeth pa un ai Robert Jones, Rhoslan, ai Thomas Evans, Waunfawr, oedd y pregethwr. Yn y Drysorfa,' 1840, dywedir mai y diweddaf ydoedd. Cawsai ysgrifenydd yr hanes hwnw, sef y diweddar Mr. Daniel Evans (wedi hyny o Gaergybi a Chaernarfon), yr hwn oedd ar y pryd yn ysgolfeistr yn Nghorris, fantais i ymddiddan â'r hen batriarch ; ac yr oedd yn ddiau yn ysgrifenu yr hyn oedd yr argraff gyffredin ymysg ei berthynasau a’i gyfeillion yn ebrwydd ar ol ei farwolaeth, os nad yr hyn a glywsai ganddo ef ei hun. Gan y dywedir yn ‘Methodistiaeth Cymru’ (i. 580) mai yn 1780 y traddodid y bregeth gan Robert Jones, er y datgenir cyn hyny (i. 569) fod ansicrwydd am yr amser, y tebyg ydyw mai Thomas Evans oedd y pregethwr y tro hwn. Ar y 26ain o Chwefror 1781, yn Eglwys Talyllyn y priodwyd Dafydd Humphrey a’i wraig. Nid yw yn anmhosibl nad oedd pregeth Robert Jones rai blynyddoedd yn foreuach. Y mae, pa fodd bynag, yn rhy ddiweddar bellach i gael sicrwydd ar y mater. Ac nid oes ychwaith sicrwydd am y llanerch lle y traddodwyd y bregeth. Yn ‘Methodistiaeth Cymru’ dywedir mai “ar heol mewn pentref a elwir Abergynolwyn” y cynhelid yr odfa a gofnodir yn ‘Nrych yr Amseroedd.’ Yr oedd gwrych uchel yn agos i’r fan, lle y gwrandawai Dafydd Humphrey, ac wrth y ‘gwrych’ hwnw y gwnaeth “gyfamod â’r Gŵr, i’w gymeryd Ef yn Dduw, a’i bobl yn bobl, a’i achos yn waith iddo tra byddai ar y ddaear.” Mae genym adgof yr arferai ein mam ddywedyd mai wrth ‘Goed y Fedw’ y gwnaethai D. H. y cyfamod y cyfeiriai mor aml ato. Dywed Rowland Evans iddo wneyd y cyfamod ar unwaith ar ddechreu yr odfa. O’r dechreuad bychan hwn y cyfododd Methodistiaeth yn ardaloedd Corris, Aberllefenni, Ystradgwyn, ac Esgairgeiliog.

Yn Maes-yr-afallen, gerllaw yr Abermaw, y gwrandawsai William Pugh a John Lewis, y rhai a ddaethant yn gychwynwyr Methodistiaeth yn y Cwrt, rai pregethau; ac nid yw yn anmhosibl fod a fynent hwy a chael y pregethau cyntaf i Abergynolwyn. Hwynt-hwy, o leiaf, oedd yr unig rai yn y lle a fuasent cyn hyny yn arfer gwrandaw o gwbl ar y Methodistiaid; Yn Maes-yr-afallen hefyd yr achubwyd Jane Roberts; ac felly y mae y cysylltiad yn ddeublyg rhwng y lle hwnw a dechreuad Methodistiaeth yn yr ardaloedd uchod.