gymharol ieuanc, yn y flwyddyn 1828. Merch i un o ferched Jane Roberts, Rugog, ydoedd y ddiweddar Jane Roberts, Cae'r-beudy, Llanelltyd. Merch iddi hithau ydyw priod Mr. David Evans, Cae Einion, gerllaw Dolgellau; a mab iddynt hwythau ydyw Mr. E. W. Evans, o Swyddfa 'Y Goleuad,' yn Nolgellau.
Ymddengys i'r chwaer a grybwyllwyd eisoes, Sarah Rhys, y pryd hwnw o Rognant, wedi hyny o'r Hen Ffactri, ac yn ddiweddaf oll o Ty'nyberth, ymuno yn lled fuan â'r gymdeithas fechan yn yr Hen Gastell. Ac ymunodd hefyd ei phriod Edward Tomos; ond ni bu ef yn rhyw ddedwydd iawn yn eu plith; a phan ddaeth y Wesleyaid i'r gymydogaeth, ymadawodd â'r Methodistiaid ac yniunodd â hwynt. Ac nid oedd heddwch i Sarah Rhys heb ei ddilyn. Bu un ferch iddynt, Ellin Roberts, priod Richard Roberts, Penygroes, yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid hyd ddiwedd ei hoes. Ac y mae yr unig ferch iddi hithau sydd yn awr yn fyw, sef Elisabeth, priod Mr. Ellis Jones, Bengrych, Aberllefenni, yn parhau yn aelod gyd'r un enwad.
Bu raid i aelodau y gymdeithas fechan yn yr Hen Gastell ddioddef cryn law'er oherwydd eu crefydd. Dodwn i lawr yma ddyfyniad byr o 'Fethodistiaeth Cyinru,' (i. 580);—
"Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr boneddig tra erlidgar, yr hwn oedd yn byw rai millchroedd oddiwrthynt . Yr oedd ei theulu yn lliosog nid llai nag un ar ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag. i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gŵr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tvddyn, a chafodd addewid o hono ar yr amod i'r wraig ymadael â'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,—
- "Wel, John bach, sut a fu gyda'r gŵr boneddig
- 'Canolig,' ebe John, 'gallasai fod yn waeth.'
- A gewch chwi y tir eto ?' gofynai y wraig.
- Caf ' ebe John, ' ond i ti ymadael â'r bobl yna.'
- Wel, John bach,' ebe Jane, 'os ydych chwi yn tybed mai gwell i chi ac i'r plant fyddai i im ymadael, ymadail wnaf â chwi, ond nid â nghrefydd byth"