Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

ar gael. ac nid oedd cyfreithiwr chwaith erbyn hyn a gymerai yr achos mewn llaw; felly disgynodd yr erlyniad yn ddirym i'r llawr."

Mae profion ar gael nad oedd y milwyr yn awyddus o gwbl i'r gorchwyl y gorfodid hwynt i'w gyflawni yn wir, y mae yr hanes uchod yn awgrymu hyny; ond nid oes un amheuaeth am greulondeb dialgar y boneddwr. Daliwyd William Pugh, Llanfihangel, yn ei dŷ gan y milwyr, a gorfodwyd ef i dalu dirwy o ugain punt am bregethu heb drwydded. Yr oedd hyny yn 1795. Gwr da oedd hwn; a gwnaeth waith da yn y Cwrt a'r ardaloedd cylchynol. Gwnaethom grybwylliad am dano eisoes mewn cysylltiad â'r bregeth yn Abergynolwyn. Bu yn un o gydlafurwyr ffyddlawn Mr. Charles, o'r Bala; yr hwn a fu yn cysgu yn fynych yn ei dŷ, sef y Llechwedd, Llanflhangel, pan ar ei deithiau. Efe am ryw dymor a arferai arwain y canu yn Sasiwn y Bala; a bu mab iddo yn cyflawni yr un swydd am flynyddoedd yn hen gapel Pall Mall, Liverpool. Yr oedd yn amlwg yn ddyn deallus, ac wedi cael hefyd ryw gymaint o addysg. Synwyd ni yn fawr dro yn ol pan y dangoswyd i ni gan gyfaill yn Liverpool, gyfrol o'i bregethau, yn ei lawysgrif ef ei hun, wrth weled rhagoroldeb eu cynwysiad, a threfnusrwydd eu cyfansoddiad. Mae yn amlwg iawn mai nid dyn cyffredin ydoedd; a dylai ei goffadwriaeth fod yn barchus yn yr ardaloedd sydd hyd heddyw yn mwynhau ffrwyth ei lafur.

Buasai wedi ei ddal a'i ddirwyo yr ail waith,—a'r tro hwnw i ddeugain punt,—oni buasai iddo lwyddo i ymguddio hyd ar ol y Chwarter Sessiwn yn y Bala.

Trwy yr erledigaeth oddiwrth y boneddwr uchod gorfodwyd y Methodistiaid i geisio amddiffyn y gyfraith drostynt fel Ymneillduwyr. Ac y mae y pwysigrwydd hwn yn perthyn i Fethodistiaeth yr ardaloedd hyn, mai eu dioddefiadau hwy fu yr achlysur i'r Methodistiaid orfod galw eu hunain yn Ymneillduwyr. Nid amrhriodol fyddai dyfynu yr hyn a ganlyn