pregethwyr ; ond er hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain ; a phan y rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw, y Cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill a'i rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w .wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd berson Llandderfel, a ddywedai, 'Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy ngalon yn erbyn hyny.' 'Y cwbl sydd arnom ni eisiau,' ebe Mr. Jones, 'yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono.' Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, annogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedau, mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddiwyd y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu ; ond wedi i'r Methodistiaid enill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn—y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd."
Ychwanegwn eto y dyfyniad dyddorol a ganlyn:
"Deallodd Mr. Charles mewn ymddyddan a'r Cyfreithiwr anrhydeddus hwn [sef yr Anrhydeddus Thomas Erskine, yr hwn yn y blwyddyn 1806 a wnaed yn Arglwydd Erskine, ac yn Ganghellydd y deyrnas], pryd yr adroddodd wrtho yr erledigaeth yr oedd y Methodistiaid dano oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod C—t wedi troseddu y gyfraith ei hunan, wrth ddirwyo y pregethwyr, ar rhai a'u derbynient i'w tai, gan na rannodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thrigolion y plwyf, yn ngwydd y dirwyedig. Cynnygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gospi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes o leiaf iddo ymgynghori â'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos 'gerbron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith.
Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oddd Cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y Cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed o dan nawdd y gyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd Mr. Charles, a John Evans, yn